Mae Aelod Seneddol Aberconwy, Robin Millar, wedi addo parhau i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb yn ei etholaeth, yn dilyn llofruddiaeth Syr David Amess.

Cafodd Syr David Amess, 69, ei drywanu yn ei feddygfa etholaethol yn Neuadd Eglwys Fethodistaidd Belfairs yn Leigh-on-Sea a bu farw o’i anafiadau.

Mae Heddlu’r Metropolitan wedi datgan bod y drosedd yn ymosodiad terfysgol.

Talodd Robin Millar deyrnged i’w gydweithiwr ond mynnodd y byddai’n parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i drigolion, grwpiau cymunedol a busnesau.

“Mae fy nghydweithwyr a minnau wedi fy syfrdanu a’m tristáu gan farwolaeth Syr David ddydd Gwener ddiwethaf,” meddai.

“Mae’r teyrngedau a glywsom iddo ddoe yn y Senedd, y gwasanaeth coffa, ynghyd â galaru pobol yn ei etholaeth, yn adlewyrchu pa mor uchel ei barch yr oedd ymhlith etholwyr a chydweithwyr.

“Mae ei lofruddiaeth yn golled enfawr i ni, y Tŷ, ei etholwyr a’r wlad – ond yn bennaf oll i’w wraig a’i bump o blant.

“Mae fy meddyliau a’m gweddïau gyda nhw.”

“Ar gael i etholwyr”

Ychwanegodd: “Fel cynrychiolydd etholedig Aberconwy yn senedd y Deyrnas Unedig, rwyf yn benderfynol o barhau i fod ar gael i etholwyr.

“Nid etholaeth yr wyf yn ei chynrychioli’n unig yw Aberconwy – dyma’r lle rwy’n falch o’i alw’n gartref hefyd.

“Fel y dywedodd y cyn-Brif Weinidog Llafur, Gordon Brown, yn ddiweddar, nid llai o ddemocratiaeth yw’r ymateb cywir i ymosodiad ar ddemocratiaeth.

“Felly byddaf yn parhau i gynnal apwyntiadau etholaethol wyneb yn wyneb lle gallaf glywed gan bobl sydd angen help fwyaf.”

Cyhuddo Ali Harbi Ali o lofruddio Syr David Amess

Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dadlau bod cymhelliant brawychol i’w lofruddiaeth

Marwolaeth David Amess: Heddlu’n cyhoeddi digwyddiad terfysgol

Galwadau am fwy o fesurau i ddiogelu aelodau seneddol

Aelod Seneddol wedi marw ar ôl cael ei drywanu sawl gwaith

Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn yr ymosodiad ar yr Aelod Seneddol Ceidwadol, David Amess