Mae ymgyrch i wahardd rasio milgwn wedi ennill cefnogaeth drawsbleidiol.

Mae’r elusen Hope Rescue Partners yn galw ar Aelodau o’r Senedd i gefnogi ei deiseb i wahardd y chwaraeon “creulon” yng Nghymru.

Bellach mae’r ddeiseb wedi denu dros 15,100 o lofnodion gan gynnwys y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, ac Aelod Seneddol Llafur dros Bontypridd, Alex Davies-Jones.

Gan fod y ddeiseb wedi denu dros 10,000 o lofnodion fe fydd y pwnc nawr yn cael ei drafod ar lawr y siambr maes o law.

Angen Deddfu

Mewn datganiad ar lawr y Senedd fe gyfeiriodd Jane Dodds at ei milgi 3 blwydd oed gan ddweud iddo ddioddef trawma yn dilyn ei gyfnod yn rasio, a bod angen cyflwyno deddfwriaeth i wahardd y chwaraeon yng Nghymru.

Mae’r chwaraeon eisoes wedi’i wahardd mewn 41 talaith yn yr UDA.

Mae yna o leiaf un ras milgi yn digwydd yng Nghymru bob wythnos ac ers 2018 mae’r elusen Hope Rescue Partners wedi achub dros 200 o gŵn.

Ond yn ôl stadiwm rasio milgwn Valley Grehounds, allan o 4,652 o rasys milgwn, dim ond 24 o filgwn ddioddefodd anaf difrifol – torri asgwrn gan amlaf.

Mae Mick Antoniw wedi mabwysiadu dau gi milgi i ddangos ei gefnogaeth i’r ymgyrch.

Fe ddywedodd ar ei gyfrif Twitter: “Rwy’n cefnogi ymgyrch Hope Rescue i wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Mae’r anafiadau, y marwolaethau a’r nifer uchel o gŵn ‘dros ben’ a grëwyd gan y diwydiant rasio llwyd yn annerbyniol.

“Nid yw pob ci mor lwcus ag Eddie ac Elsie yma, sydd bellach â chartref cariadus.

“Bob blwyddyn, mae cannoedd o’r cŵn hyn yn dioddef anaf neu farwolaeth o ganlyniad i gael eu gorfodi i rasio, gyda llawer yn cael eu ‘rhoi i lawr’ oherwydd cost uchel o driniaeth feddygol, neu oherwydd diffyg cartrefi addas ar eu cyfer,” meddai Mick Antoniw, AoS Llafur dros Bontypridd.

“Nid yw’r anafiadau, y marwolaethau a’r nifer uchel o gŵn ‘dros ben’ a grëwyd gan y diwydiant rasio yn dderbyniol, ac mae’n gwneud gwaith sefydliadau fel Hope, sydd eisoes yn ymrwymo i gymryd yr holl gŵn amddifad o chwe awdurdod lleol yng Nghymru, hyd yn oed yn anos.”

“Maen nhw’n anifeiliaid hardd, dof a chariadus, ac yn haeddu gwell.”