Mae pwyllgor Cyngor Gwynedd wedi rhoi llewyrchyn o obaith i Ysgol Gynradd Abersoch ar ôl cyfeirio’r cynllun i gau’r ysgol yn ôl i’r cabinet.

Yn dilyn y penderfyniad ym mis Medi, mae disgwyl i’r ysgol gau ei drysau ym mis Rhagfyr, gyda’r saith disgybl sy’n weddill yn cael eu symud i Ysgol Sarn Bach.

Roedd argymhelliad i gau’r ysgol wedi ei lunio gan yr adran addysg, ac fe wnaethon nhw nodi yn eu hadroddiad bod nifer disgyblion wedi gostwng yn sylweddol a bod costau cynnal yr ysgol yn uchel.

Fe bleidleisiodd y cabinet yn unfrydol o blaid yr argymhelliad, er gwaethaf gwrthwynebiad gan y gymuned ac ymgyrchwyr iaith.

Mewn cyfarfod heddiw (21 Hydref), fe wnaeth y pwyllgor craffu addysg ac economi godi pryderon ynglŷn â’r cynllun, ar ôl i aelodau dynnu sylw at gynlluniau i godi tai a chreu swyddi yn y pentref.

Pryderon

Fe wnaeth cadeirydd y pwyllgor craffu, y Cynghorydd Beth Lawton, yn ogystal â’r cynghorwyr Alwyn Gruffydd ac Elwyn Jones, godi’r mater eto, yn dilyn honiadau bod yr adroddiad yn “anghywir ac yn gamarweiniol o ran yr effaith ar y gymuned,” yn ogystal ag ar y Gymraeg.

Roedden nhw’n dweud bod y cynlluniau i adeiladu gwesty, a fyddai’n creu 40 o swyddi, yn ogystal â chynlluniau i godi 15 o dai fforddiadwy ym Mryn Garmon, heb gael eu hystyried yn llawn.

Ar ben hynny, roedden nhw’n cwestiynu’r penderfyniad i gau’r ysgol yng nghanol blwyddyn academaidd, a symud disgyblion i ysgol newydd ym mis Ionawr.

Fe wnaeth swyddogion geisio sicrhau’r pwyllgor eu bod nhw wedi ystyried pob ffactor wrth ddod i gasgliad, a dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, yr aelod cabinet dros addysg, bod y broses wedi bod yn “deg.”

O ganlyniad i’r pryderon, bydd y cabinet yn trafod y penderfyniad eto yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Fe wnaeth Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith groesawu’r penderfyniad i edrych eto ar y pryderon.

“Mae’n amlwg bellach na ellid rhuthro’r broses a chau’r ysgol erbyn y Nadolig,” meddai.

“Felly mae’r Gymdeithas yn galw ar y Cabinet i ohirio penderfyniad terfynol tan y Pasg, a defnyddio’r chwe mis nesaf i drafod o ddifri y cynigion amgen cyffrous a gynigiwyd gan y llywodraethwyr.

“Gall y mater gael ei ruthro trwodd, neu gall hwn fod yn ddechrau proses o adfeddiannu cymunedau arfordirol Cymraeg.”