Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhuddo’r Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “roi ergyd drom i ffermwyr defaid Cymru”.

Daw hyn wedi i Boris Johnson, Prif Weinidog Prydain, gytuno ar gytundeb masnach newydd gyda Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd.

Mae Llywydd yr NFU, Minette Batters, eisoes wedi dweud bod y cytundeb yn agor y Deyrnas Unedig i “nifer sylweddol ychwanegol o fwyd wedi’i fewnforio” tra’n “sicrhau bron dim i ffermwyr y Deyrnas Unedig”.

“Dylem i gyd boeni y gallai fod anfanteision enfawr i’r cytundebau hyn, yn enwedig ar gyfer sectorau fel llaeth, cig coch a garddwriaeth,” meddai.

Dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’r cytundeb yn torri biwrocratiaeth i fusnesau ac yn rhoi terfyn ar dariffau ar allforion.

Ond mae ffermwyr yn rhybuddio am “anfanteision enfawr” i’r cytundeb, gan ddweud y gallai “niweidio hyfywedd llawer o ffermydd Prydain yn y blynyddoedd i ddod”.

Daw’r cytundeb ar ôl 16 mis o drafodaethau.

“Mae hyn yn fargen fasnach fawr i’r Deyrnas Unedig, gan gadarnhau ein cyfeillgarwch hir â Seland Newydd a hyrwyddo ein cysylltiadau â’r Indo-Pacific,” meddai Boris Johnson.

“Bydd o fudd i fusnesau a chwsmeriaid ledled y wlad, gan dorri costau i allforwyr ac agor mynediad i’n gweithwyr.

“Mae hon yn wythnos wych i Brydain Fyd-eang.”

“Siomedig”

Wrth sôn am y datblygiadau, dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac Aelod o’r Senedd (MS) Jane Dodds: “Rwy’n hynod siomedig bod y Llywodraeth Geidwadol wedi penderfynu esgeuluso’r hyn sy’n bwysig i ffermwyr defaid Cymru fel hyn, gan anwybyddu eu pryderon yn llwyr a thorri ymrwymiadau blaenorol i’r gymuned ffermio a wnaed gan y Blaid.

“Ffermydd bach a lleol sy’n eiddo i deuluoedd fydd yn cael eu heffeithio waethaf gan y cytundeb hwn, gan ei bod methu â chystadlu â chorfforaethau ffermio mawr sy’n bresennol yn Seland Newydd ac Awstralia.

“Mae safonau lles anifeiliaid yn Seland Newydd hefyd yn sylweddol is na’r hyn a ddisgwylir yn y Deyrnas Unedig, sy’n golygu y bydd cynhyrchwyr a chwsmeriaid Cymru yn ysgwyddo baich y penderfyniad hwn.”

“Effaith barhaol ar economi Cymru”

Ychwanegodd Jane Dodds: “Gallai’r rhuthr i lofnodi’r cytundeb masnach hwn gael effaith barhaol ar economi Cymru a bywyd gwledig yng Nghymru, yn enwedig yn y Canolbarth a’r Gogledd lle mae gennym gymunedau ffermio defaid mor fywiog.

“Daw’r cytundeb hefyd ar adeg sydd eisoes yn anodd i’n ffermwyr, gyda phrinder llafur sylweddol i’w weld ledled y wlad a chostau cynhyrchu cynyddol, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn prisiau ynni.

“At hynny, nid yw manteision y cytundeb hwn, ochr yn ochr â chytundeb Awstralia, hyd yn oed yn dechrau talu am y refeniw masnach a gollwyd yn sgil Brexit.”

Amheuon ynglŷn â chytundeb masnach y Deyrnas Unedig â Seland Newydd

Ffermwyr yn rhybuddio y bydd yn “niweidio hyfywedd llawer o ffermydd Prydain yn y blynyddoedd i ddod”