Mae 34% o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru am farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19.

Dangosa’r data bod 375 o gartrefi wedi gweld marwolaethau’n gysylltiedig â Covid rhwng 1 Ionawr 2020 a 30 Mehefin 2021.

Yn ôl yr hysbysiadau, bu farw 1,897 o breswylwyr cartrefi gofal Cymru gyda, neu o ganlyniad i, Covid-19 yn y cyfnod hwnnw.

Mae’r data gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn dangos marwolaethau preswylwyr waeth ble y gwnaethon nhw ddal Covid-19 na lle buon nhw farw.

Er enghraifft, mae’n bosib bod y preswylydd wedi cael ei anfon o gartref gofal i’r ysbyty yn sgil salwch arall, ac wedi dal Covid-19 yn yr ysbyty cyn dychwelyd i’r cartref.

Dydi’r hysbysiadau hyn ddim yn cadarnhau bod Covid-19 yn bresennol yn y cartref gofal felly – yn hytrach, nod y data yw “rhoi darlun mwy cynhwysfawr o effaith Covid-19 ar gartrefi gofal, y bobol sy’n byw ynddyn nhw, eu teuluoedd a’r staff”.

Y data

Mae’r data yn cynnwys achosion o Covid-19 wedi’u cadarnhau, ac achosion a amheuwyd.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn dweud ei bod hi’n bwysig nodi nad yw nifer yr hysbysiadau am farwolaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19 yn adlewyrchu ansawdd y gofal ar ben ei hun.

Gall llawer o ffactorau effeithio ar nifer y marwolaethau mewn cartref gofal, meddai’r Arolygiaeth, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyfraddau trosglwyddo yn y gymuned, maint a chynllun y cartref gofal, oedran, ethnigrwydd, ac anghenion iechyd a gofal y bobol sy’n byw yn y cartref.

Yn ôl tystiolaeth Sefydliad Iechyd y Byd, unwaith y bydd Covid-19 mewn cartref gofal “mae’n anodd ei reoli, yn rhannol oherwydd nifer y bobol sy’n byw gyda’i gilydd mewn cyfleusterau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer byw’n gymunedol, a’r ffaith bod gofal personol yn gofyn am agosatrwydd”.

Dangosa’r data bod nifer yr hysbysiadau am farwolaethau yn ymwneud â Covid mewn cartrefi gofal ar eu huchaf, o fymryn, yn ystod chwarter cyntaf 2020/21, sef yn ystod ton gyntaf Covid.

Bryd hynny, bu 686 o farwolaethau mewn 196 cartref yng Nghymru.

Bu gostyngiad sylweddol wedyn yn ystod ail chwarter 2020/21, sy’n adlewyrchu effaith y cyfnod clo cyntaf, mae’n debyg.

Yn ystod trydydd chwarter 2020/21 bu 516 o farwolaethau, a bu 651 o farwolaethau yn ystod y pedwerydd chwarter.

Dim ond dwy farwolaeth fu yn ystod chwarter cyntaf 2021/22, sy’n cynnwys y tri mis hyd at ddiwedd Mehefin eleni.

Dangosa’r data bod un cartref gofal yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi gwybod am 29 marwolaeth yn sgil Covid.

Fe wnaeth dau gartref yn Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot nodi 20 marwolaeth, bu 21 marwolaeth mewn dau gartref yng Nghasnewydd a Wrecsam, a 23 marwolaeth mewn cartref yn Sir Ddinbych.

Gan fod y data yn seiliedig ar hysbysiadau, mae’n amhosibl pennu ai Covid-19 oedd prif achos y farwolaeth ym mhob achos.

“Dangos tosturi a pharch”

Dywedodd Gillian Baranski, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Cymru, fod pob hysbysiad “yn cynrychioli bywyd a gollwyd a theuluoedd a ffrindiau sy’n galaru am eu hanwyliaid”.

“Yn aml, roedd eu tristwch yn fwy dwys oherwydd cyfyngiadau Covid-19 a oedd yn eu hatal rhag bod gyda’u hanwyliaid mor aml, neu am gyhyd ag y byddent wedi’i ddymuno ar ddiwedd eu hoes,” meddai Gillian Baranski.

“Roedd y staff a fu’n gofalu am y bobl yn eu gofal ac a oedd wedi meithrin cydberthnasau â nhw hefyd yn galaru gan fod y marwolaethau wedi effeithio’n fawr arnynt.

“Mae arloesedd a gwydnwch y bobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal yn ysbrydoledig a gwelsom lu o enghreifftiau o ofal ymroddedig, tosturiol ac anhunanol, gan gynnwys staff yn cysgu yn lleoliadau’r gwasanaethau er mwyn lleihau’r risgiau i bobl.

“Rydym yn estyn ein cydymdeimladau dwysaf i bawb sydd wedi colli aelod o’r teulu neu ffrind o ganlyniad i feirws Covid-19.

“Gofynnwn i chi ddangos tosturi a pharch i’r bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, i’w teuluoedd, ac i’r staff a fu’n gweithio’n ddiflino ac yn anhunanol i ddiogelu pobl, i ofalu amdanynt ac i fynd i’r afael â’r heriau niferus a oedd yn eu hwynebu.”