Mae achos yn erbyn cyn-Aelod o’r Senedd (MS) Neil McEvoy wedi’i wrthod yn y llys yn dilyn cyhuddiad yn ei erbyn o dorri rheolau yn ystod y cyfnod clo.

Cafodd Mr McEvoy, sydd ar hyn o bryd yn gynghorydd yn cynrychioli ward y Tyllgoed ar Gyngor Caerdydd, ‘hysbysiad gweithdrefn cyfiawnder’ gan Lys Ynadon Caerdydd.

Cafodd ei gyhuddo o fod yng Nghaerau, Caerdydd – i ffwrdd o’i gartref yn y Tyllgoed – ar Chwefror 15, tra’r oedd Cymru ar Lefel Rhybudd 4.

Dan y cyfyngiadau ar y pryd, gwaharddwyd pobl rhag teithio y tu allan i’w hardal leol heb esgus rhesymol.

“Paratoi ofnadwy”

Cafodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ei gyhuddo o “baratoi ofnadwy” gan y barnwr oedd yn goruchwylio’r gwrandawiad.

Roedd Mr McEvoy wedi gwadu’r honiad ac mae’r barnwr Stephen Harmes wedi beirniadu’r CPS am newid manylion yr erlyniad ar ddiwrnod y treial.

Fe ddywedodd y barnwr nad oedd yr achos wedi’i gymryd yn ddigon difrifol gan y CPS a’i fod yn cwestiynu a oedd unrhyw obaith realistig o gollfarn.

Fe bostiodd Neil McEvoy fideo ar ei gyfrif Twitter oedd yn datgan: Dywedodd y Barnwr Harmes bod ymddygiad yr erlyniad yn “warthus”. Teimlais yn flin dros y bargyfreithiwr erlyn oedd yn cyflwyno achos mor wael, ond nid hi wnaeth roi’r achos at ei gilydd. @swpolice#CaseDismissed’

“Gwarthus”

Wrth wrthod yr achos, dywedodd Mr Harmes hefyd fod y CPS wedi methu â darparu darnau sylweddol o dystiolaeth i Mr McEvoy mewn da bryd i ganiatáu iddo baratoi ei amddiffyniad.

Dywedodd Mr McEvoy hefyd yr hoffai fod wedi darparu ei dyst ei hun, ond na chafodd y cyfle.

“Roedd gennych chi’r lleoliad anghywir yn ogystal â chyflwyno’r dystiolaeth iddo yn hwyr, felly sut ar y ddaear mae e fod i ymateb?” meddai Mr Harmes.

Ychwanegodd: “Mae hyn yn warthus gan y CPS. Defnyddiaf y gair hwnnw gan wybod ei fod yn debygol o gael ei adrodd.”

“Mae llawer o achosion eraill yn y llysoedd hyn y mae’n rhaid i ni fwrw ymlaen â nhw ac fe ddylai fod wedi cael ei wneud yn well”.

Buodd Mr McEvoy yn aelod o Blaid Cymru ond fe gafodd ei wahardd yn 2016, cyn sefydlu plaid ei hun, Propel, ond fe fethodd gael ei ailethol fis Mai.

Neil McEvoy o flaen llys am dorri rheolau yn ystod y cyfnod clo

Roedd Mr McEvoy yn ardal Caerau, Caerdydd – i ffwrdd o’i gartref yn y Tyllgoed, Caerdydd – ar Chwefror 15, tra’r oedd Cymru ar Lefel Rhybudd 4.