Mae Ali Harbi Ali wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Syr David Amess.

Cafodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol o Southend ei ladd mewn cymhorthfa yn ei etholaeth ddydd Gwener (Hydref 15).

Daeth cadarnhad o’r cyhuddiad mewn datganiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

“Byddwn yn cyflwyno i’r llys fod gan y llofruddiaeth yma gysylltiadau brawychol, sef fod iddi gymhelliant crefyddol ac ideolegol,” meddai llefarydd.

“Mae e hefyd wedi cael ei gyhuddo o baratoi gweithredoedd brawychol.

“Mae hyn yn dilyn adolygiad o’r dystiolaeth a gafodd ei chasglu gan Heddlu Llundain yn eu hymchwiliad.”

Pwysleisiodd y llefarydd fod ganddo’r hawl i achos llys teg.

Marwolaeth David Amess: Heddlu’n cyhoeddi digwyddiad terfysgol

Galwadau am fwy o fesurau i ddiogelu aelodau seneddol

Aelod Seneddol wedi marw ar ôl cael ei drywanu sawl gwaith

Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn yr ymosodiad ar yr Aelod Seneddol Ceidwadol, David Amess