Mae cyfyngiadau Covid adeg y Nadolig yn “annhebygol ar hyn o bryd”, yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, mae Eluned Morgan ymbil ar bobol Cymru i “chwarae eu rhan” wrth geisio cadw cyfraddau Covid-19 yn isel.

Ar BBC Radio Wales heddiw (dydd Iau, Hydref 21), fe ofynnwyd i’r Ysgrifennydd Iechyd a fyddai’r Nadolig yn edrych yn fwy “normal” eleni, a dywedodd hi ei bod “wir yn gobeithio hynny”.

Mae Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru, wedi dweud y bydd y gaeaf hwn yn “un o’r cyfnodau caletaf inni wynebu erioed”.

Mae 617 o achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth yn y ffigurau diweddaraf, ac mae’r ffigurau yn uwch yma nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig yn ddiweddar.

Cynllun Gaeaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gaeaf, a bydd £42m ychwanegol ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol, ar ben y £248m sydd eisoes wedi ei ddarparu yn rhan o gyllid adferiad Covid.

Mae’r arian hwnnw am gael ei wario i liniaru’r pwysau ar gapasiti gwelyau ysbytai yng Nghymru, a sicrhau bod gofal mewn argyfwng yn gallu delio ag unrhyw aflonyddwch.

Bydd Cynllun y Gaeaf hefyd yn blaenoriaethu iechyd meddwl, llesiant staff a’r rhaglen frechu ymysg pethau eraill.

‘Y Cyhoedd i gymryd cyfrifoldeb’

“Fel y mae pennaeth y Gwasanaeth Iechyd wedi’i ddweud, dyma fydd y gaeaf anoddaf erioed yn hanes y GIG,” meddai Eluned Morgan.

“A byddwn yn pledio gyda’r cyhoedd yng Nghymru i gymryd eu cyfrifoldeb wrth geisio gostwng y pwysau hwnnw wrth sicrhau eu bod yn cymryd eu cyfrifoldeb drwy fod yn ddiogel rhag Covid.

“Ond yn ein cynllun Covid, mae ail senario lle rydyn ni’n dechrau mynd yn ôl i fyny drwy’r lefelau hynny o gyfyngiadau, ac mae hynny’n rywbeth y byddwn ni’n cadw llygad arno.

“Ond ar hyn o bryd mae’n annhebygol y byddwn ni’n dilyn y llwybr hwnnw – ond pwy a ŵyr beth fydd y gaeaf yn dod ag e, dydyn ni dal ddim yn gwybod a fydd yna amrywiolyn newydd, felly mae’n rhaid i ni gadw llygad ar y sefyllfa.

“Mae’n dal i fod yn rhywbeth rydyn ni’n byw ag e, ac yn dysgu amdano wrth i ni fynd ymlaen.”

‘Pryderus iawn’

Mae Eluned Morgan hefyd yn annog pobol i gael eu brechlyn atgyfnerthu Covid-19 yn ogystal â phigiad ffliw.

Dywed ei bod yn “bryderus iawn” am y pwysau sydd ar weithwyr y Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol.

“Maen nhw wedi blino, maen nhw hefyd yn ymateb i Covid o fewn y gymuned,” meddai.

“Mae gennym gyfraddau uchel iawn o hyd o fewn ein cymunedau, mor uchel ag y buon nhw erioed, ac wrth gwrs mae rhai o’r nyrsys hynny’n dal Covid hefyd.

“Mae hynny’n golygu bod rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd o’r gwaith ac mae hynny’n rhoi mwy o bwysau ar y bobol sydd eisoes yn y gwaith.”

‘Cynllun sydd wedi’i gopïo a’i ludo’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu cynllun Gaeaf Llywodraeth Cymru gan ei ddisgrifio’n unfath â’r cynllun y llynedd.

Dywed Russell George, llefarydd iechyd y blaid, fod y cynllun yn edrych fel petai “wedi’i gopïo a’i ludo”.

“Yn y bôn, mae’n ymddangos yr un peth â’r llynedd a dyna sydd wedi ein harwain at y sefyllfa lle’r ydym yn profi’r amseroedd aros gwaethaf ar gofnod, gyda’r backlog hwyaf erioed o driniaeth, a’r amseroedd ymateb ambiwlansys mwyaf araf.”

Mae bron i 250,000 o bobol wedi bod yn aros mwy na naw mis am driniaeth, i fyny o tua 25,000 ar ddechrau’r pandemig, yn ôl yr ystadegau.

Ychwanegodd fod angen dod â “newid ar frys i ganolfannau diagnosis ar sut i ganfod cancr yn gynnar yn ogystal â hybiau llawdriniaeth i ddarparu gofal i gleifion.”

Y gaeaf am fod yn un o’r “cyfnodau caletaf” i’r Gwasanaeth Iechyd wynebu erioed

17 o gyfadrannau a cholegau brenhinol meddygol yn galw am weithredu cenedlaethol i daclo prinder staff, anghydraddoldebau iechyd a rhestrau aros