Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno cymhellion ariannol i helpu i recriwtio mwy o athrawon o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Mae’r camau’n rhan o gynllun ehangach sy’n canolbwyntio ar gynyddu amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n ymgeisio am lefydd ar gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Dim ond 1.3% o athrawon ysgolion Cymru nododd eu bod nhw o gefndir ethnig lleiafrifol, meddai Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg.

Mae hynny’n cymharu â 12% o ddysgwyr.

Dros yr haf, dywedodd Natalie Jones, sy’n gwirfoddoli gyda Chyngor Hil Cymru ac sydd newydd gymhwyso fel athrawes, wrth golwg360 ei bod hi’n “anodd gweld dy hun mewn swydd pan ti erioed wedi gweld rhywun o dy gefndir di yn gwneud hi” yn sgil prinder athrawon Du, Asiaidd ac o gefndir ethnig lleiafrifol yng Nghymru.

Y cynllun

Fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y gweithgor sydd wedi cynghori ar Gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y cwricwlwm, bydd y cynllun yn cynnwys targedau hyrwyddo addysg fel gyrfa i fwy o bobol o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Bydd hefyd yn ofynnol i gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon weithio tuag at recriwtio canran o fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Am y tro cyntaf, bydd cymhellion ariannol ychwanegol yn cael eu cyflwyno hefyd i ddenu mwy o athrawon dan hyfforddiant o leiafrifoedd ethnig, o 2022 ymlaen, fel sy’n bodoli ar gyfer rhai pynciau lle mae prinder athrawon, ac athrawon cyfrwng Cymraeg, ar y funud.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ei bod hi’n “hanfodol ein bod ni’n cynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu i gefnogi ein dysgwyr yn well”.

“I wneud hyn, mae’n rhaid i ni ddeall y rhwystrau sy’n atal mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol rhag mynd i addysgu, a gweithredu i sicrhau bod y rhwystrau hynny’n cael eu dileu,” meddai Jeremy Miles.

“Yn syml, nid yw’n ddigon da bod llai na 2% o athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol. Dyma pam rydyn ni’n lansio’r cynllun yma y mae ei wir angen, fel bod gennym ni weithlu sy’n adlewyrchu poblogaeth Cymru yn well.

“Yn bwysig, dylai cynyddu amrywiaeth mewn ysgolion fod yn berthnasol nid yn unig i ardaloedd lle mae cyfran uwch o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifoedd, ond ledled Cymru gyfan.

“Y gwaith hwn yw’r cam cyntaf yn y gwaith pwysig i gynyddu amrywiaeth yn ein gweithlu addysg.”

Gwobr Betty Campbell

Mae Jeremy Miles hefyd wedi cyhoeddi gwobr newydd fydd yn rhan o Wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru eleni.

Bydd Gwobr Betty Campbell, am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Duon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, yn cael ei dyfarnu i unigolyn, tîm neu ysgol sydd wedi dangos ymwybyddiaeth ragorol o bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r wobr yn anrhydeddu’r ddiweddar Betty Campbell MBE, cyn bennaeth yn Ysgol Gynradd Mount Stuart a’r pennaeth du cyntaf yng Nghymru.

Dywedodd Elaine Clarke, merch Betty Campbell, fod y teulu’n “hynod falch a breintiedig o gael y categori newydd yma yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, wedi’i enwi ar ôl ein mam, a fydd yn cael ei chofio mewn ffordd mor hyfryd ac eiconig”.

“Roedd ein mam yn angerddol iawn am addysg ac arloesi yn y cwricwlwm, a oedd yn sicrhau bod plant yn cael cyfle i fwynhau a chofleidio profiadau cyfoethog, gan adlewyrchu eu hunaniaeth aml-ethnig a’u hysbrydoli i gyflawni eu breuddwydion. I Betty, roedd yr amhosibl bob amser yn bosibl,” meddai Elaine Clarke.

“Mae’r Wobr yn ffordd hyfryd o hyrwyddo cynhwysiant yr holl grwpiau Duon, Asiaidd a lleiafrifol ac rydym yn siŵr y bydd y rhai fydd yn ei derbyn yn parhau i gael eu hysbrydoli, ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, yn ôl troed ein mam.”

Dywedodd yr Athro Charlotte Williams, sy’n cadeirio’r gweithgor ar Gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, Cyfraniadau a Chynefin yn y Cwricwlwm i ysgolion:

“Rwy’n falch iawn o weld lansiad y wobr newydd hon. Rwy’n gobeithio y bydd yn ysgogi ysgolion i feddwl am ffyrdd arloesol a dychmygus o gynrychioli’r themâu hyn yn y cwricwlwm newydd.

“Mae amrywiaeth yn thema ganolog a thrawsbynciol yn y cwricwlwm newydd. Bydd y wobr hon yn annog ysgolion i feddwl yn strategol am sut gallant ymgorffori’r dimensiwn pwysig hwn ym mhopeth maent yn ei wneud.

“Mae lansiad y wobr hon yn arwydd clir bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gyflym i argymhellion yr adroddiad Gweinidogol ar amrywiaeth yn y cwricwlwm newydd.”

Cyfle i fod yn bositif am gymunedau BAME Cymru

Emily Pemberton

Mae angen mwy na gwersi ysgol i amlygu hanes a chyfraniad pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i Gymru, meddai Emily Pemberton