Mae pobol fyddar yng Nghymru yn profi anghydraddoldebau iechyd meddwl sylweddol oherwydd diffyg gwasanaethau, yn ôl adroddiad newydd,

Nid oes gwasanaeth iechyd meddwl Byddar arbenigol yng Nghymru, ac mae’r adroddiad gan Grŵp Iechyd Meddwl a Llesiant Byddar Cymru yn nodi bod rhaid teithio i Firmingham, Llundain neu Fanceinion er mwyn gallu cael asesiad neu driniaeth drwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Mae diffyg gwasanaethau hygyrch a hyfforddiant cyfyngedig am faterion Byddar ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal yn arwain at anghydraddoldebau, meddai adroddiad ‘Pobol Fyddar Cymru: Anghydraddoldebau Cudd’.

Cafodd yr adroddiad ei lansio yng Ngrŵp Trawsbleidiol y Senedd ar gyfer Materion Byddar, ac mae’r grŵp yn galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru i wella’r sefyllfa, neu bydd iechyd meddwl pobol fyddar Cymru “yn parhau i fod mewn perygl”.

“Mewn perygl”

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen am wasanaeth cyngor a chyfeirio ar gyfer unigolion, teuluoedd a gweithwyr hefyd.

Noda’r grŵp bod bwlch gwybodaeth oherwydd nad oes nifer o weithwyr iechyd proffesiynol yn gwybod am wasanaethau cwnsela Byddar sy’n cael eu darparu gan bobol Fyddar.

Yn ogystal, maen nhw’n nodi bod gweithredu cyfyngedig ar Safonau Gwybodaeth Hygyrch Cymru Gyfan yn golygu nad yw pobol Fyddar yn cael gwybodaeth mewn ffyrdd maen nhw’n gallu ei ddeall, yn dal i fod.

Yn ôl Dr Julia Terry, Athro Cysylltiol iechyd meddwl a nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe ac un o awduron yr adroddiad, “mae iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru wedi bod yn fater a esgeuluswyd ers degawdau”.

“Mae pobol fyddar eisoes yn agored i ddwywaith y risg o broblemau iechyd meddwl ac yn ei chael yn anodd iawn cael cymorth gan mai anaml y mae gwasanaethau’n darparu gwybodaeth hygyrch neu wasanaethau sy’n berthnasol yn ddiwylliannol,” meddai Dr Julia Terry.

“Os na fydd unrhyw beth yn newid, bydd iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru yn parhau i fod mewn perygl.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau sgwrs i ddatblygu atebion tymor byr a thymor hir i wella gwasanaethau yng Nghymru i bobl Fyddar sy’n profi iechyd meddwl gwael.”