Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna gronfa newydd ar gael i annog pobl anabl i sefyll mewn etholiadau.

Bydd y ‘Gronfa Mynediad i Swydd Etholedig’ nawr ar gael i gefnogi unigolion sydd angen cymorth ychwanegol i sefyll mewn etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf.

Bwriad y buddsoddiad yw talu am gostau ychwanegol, fel costau offer, hyfforddiant, teithio a gweithwyr cymorth cyfathrebu fel dehonglwyr Iaith Arwyddion.

Yn ôl Damian Bridgman, sydd â pharlys yr ymennydd ac sydd wedi sefyll mewn etholiadau yn y gorffennol, mae’r arian yn fuddiol i ddenu pobl anabl i wleidyddiaeth.

“Rwy’n angerddol am wneud gwahaniaeth i gymdeithas a dangos i bobl Cymru ein bod ni angen amrywiaeth o bobl i’n cynrychioli ni. Heb y gwahanol leisiau hyn, ni fyddwn ni’n gallu cynrychioli’r bobl yn deg.

Pe byddai’r gronfa’n bodoli pan oedd hi’n sefyll mewn etholiad, mae’n ystyried y byddai’r arian wedi hwyluso ei phrofiad.

“Fe fyddwn i wedi rhoi’r arian tuag at gymhorthydd personol,” meddai.

“Fe fyddwn wedi defnyddio’r cymhorthydd hwnnw i gynnal mwy o sesiynau wyneb yn wyneb, a fyddai wedi teimlo ychydig yn haws na’r dull traddodiadol o guro drysau.”

Gwella amrywiaeth

Gyda 1,254 o gynghorwyr yn cael eu hethol i 22 o brif gynghorau ar draws Cymru, mae’r gronfa’n ceisio gwella amrywiaeth a mynd i’r afael â thangynrychioliaeth pobl anabl yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn ôl Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol mae’n gyfle i sicrhau “nad yw pobl anabl yn wynebu rhwystrau wrth gymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru drwy dalu am yr addasiadau rhesymol y maent eu hangen.”

Ychwanegodd: “Mae angen inni wneud mwy i wella amrywiaeth ymhlith ein swyddogion etholedig os ydyn ni o ddifrif am greu Cymru deg a chyfiawn, sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.”

Senedd sy’n gynhwysol

Eisoes mae’r Senedd wedi cyhoeddi y bydd yna ‘Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd’ yn cael ei sefydlu.

Bydd y pwyllgor, dan gadeiryddiaeth AoS Llafur, Huw Irranca-Davies yn canolbwyntio ar y system sy’n ethol aelodau, cynyddu nifer yr aelodau, a chreu Senedd sy’n fwy cynhwysol a chynrychioladwy gan wella amrywiaeth o fewn y Senedd

Yn ogystal, mewn rhaglen newydd Sefydlu Newid ar BBC Radio Cymru, mae’r cyn-Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, Bethan Sayed hefyd yn galw am wneud y Senedd yn lle fwy “atyniadol a chynhwysol”.

“Dw i am geisio sefydlu newid o’r tu allan, i ddiwygio’r Senedd a gwneud y lle yn fwy cynhwysol ac atyniadol i weithio fel aelod etholedig,” meddai wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Bydd y ‘Gronfa Mynediad i Swydd Etholedig’ dan ofal Anabledd Cymru, gyda’r nod yn y pen draw o’i hehangu gan gynnig mwy o gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn democratiaeth leol i gefnogi eu cymunedau.

Bethan Sayed eisiau troi’r Senedd “yn fwy cynhwysol ac atyniadol”

Jacob Morris

“Mae rhannu swydd rhwng dau aelod yn cynnig mwy i etholwyr gyda phobl yn cael ‘two for the price of one’ fel petai, drwy ethol dau gymeriad gwahanol”

Croesawu pwyllgor newydd i drafod cynyddu Aelodau o’r Senedd

Bydd y ‘Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd’ hefyd yn edrych ar y system sy’n ethol aelodau a gwella amrywiaeth o fewn y Senedd