Gydag olion gwaith glo yn gysgod llythrennol dros gymunedau cymoedd y de, mae’r tomenni mawr hyn yn destament parhaol i’r oes ddiwydiannol a fu.

O Dreherbert i Dreorci i Dretomas, mae’r mynyddoedd glo hyn yn peri ofn i’r ardaloedd ôl ddiwydiannol. Ar ddechrau tymor y gaeaf, a gyda mwy o dywydd garw i ddod, mae gwir bryder am effaith glaw trwm ar y tomenni a allai achosi tirlithriadau.