Daeth tua 1,000 o bobol i gefnogi Rali ‘Hawl i Fyw Adra’ ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, yn dilyn rali debyg yn Nhryweryn dros yr haf.

Roedd to’r Senedd yn sgleinio dan haul cynnes Tachwedd, ac yn llwyfan delfrydol i berfformiadau angerddol y gantores Eädyth a Twmffat, a’r areithwyr Ali Yassine, Osian Jones, Rhys Tudur, a Mabli Siriol. Nid oedd Meri Huws yn gallu bod yno oherwydd cymhlethdodau Covid.