Mae angen chwyldro mewn gofal cymdeithasol wrth i fwy o bobol fyw ag anghenion cymhleth ac wrth i awdurdodau lleol wynebu prinderau “anferth” mewn gofalwyr, meddai cynghorwyr yn ystod cyfarfod Cyngor Torfaen.

Mae Cyngor Torfaen yn wynebu prinder gweithwyr cartrefi gofal, gyda staff wedi “ymlâdd” ar ôl y pandemig, a chyfraddau cyflog yn golygu bod rhai gweithwyr yn symud i swyddi eraill, megis i’r sector manwerthu.

Tynnodd adroddiad gan y cyngor, sy’n trafod effeithlonrwydd gwasanaethau cymdeithasol Torfaen dros y flwyddyn ddiwethaf, sylw at y “gwaith anhygoel” gafodd ei wneud gan staff gofal iechyd yn ystod y pandemig.

Mewn “blwyddyn heb ei thebyg”, dywedodd yr adroddiad bod staff wedi ymateb i’r her er mwyn cefnogi rhai o bobol mwyaf agored i niwed yr ardal “oedd yn dioddef y cyfnodau anoddaf”.

Er hynny, mae’r adroddiad yn rhybuddio “nad oes sicrwydd” sut y bydd y pandemig yn effeithio ar wasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol.

“Trympio”

Clywodd cyfarfod llawn o’r cyngor ddydd Mawrth (16 Tachwedd) bod cyngor Torfaen, fel nifer o awdurdodau eraill, yn cael trafferth recriwtio gweithwyr gofal cartref wedi’r pandemig.

Dywedodd Keith Rutherford, pennaeth y cyngor dros ofal cymdeithasol a thai, bod rhai gweithwyr gofal cartref yn symud i weithio yn y sector manwerthu gan fod y sector honno’n talu’n well.

“Rydyn ni bron yn cael ein trympio,” meddai.

“Os ydyn ni’n trio cynnig ychydig mwy, maen nhw’n gwneud cynnig arall o £1 neu £2.”

Dywedodd Mr Rutherford bod angen cefnogaeth gan y llywodraeth dros lefelau tâl oherwydd nad yw’r cyngor “yn gallu cystadlu”.

“Angen chwyldro”

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, sy’n gyfrifol am wasanaethau oedolion, bod angen cael un ymateb ar gyfer yr holl Deyrnas Unedig er mwyn cynyddu tâl a chodi statws gofal cymdeithasol.

“Mae’r pandemig wedi dangos natur hanfodol gofal cymdeithasol a faint ydyn ni’n dibynnu ar ofalwyr cymdeithasol,” meddai.

“Os nad ydyn ni’n gweithredu nawr i roi hyder a thâl cydradd dw i ddim yn gwybod pryd y byddem ni yn gwneud hynny.”

Ychwanegodd bod angen “chwyldro mewn gofal cymdeithasol” wrth i anghenion gofal newid ac wrth i bobol fyw yn hŷn.

Dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Anthony Hunt, bod y sector wedi wynebu “storm berffaith” yn sgil y pandemig a phroblemau systemig cenedlaethol.

“Mae’r ffocws yn aml iawn ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae’r sector gofal cymdeithasol yn bwysig i fywydau pobol a pharhad gwasanaethau hanfodol fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei hun,” meddai.

Dywedodd y cynghorydd Ceidwadol Huw Bevan ei fod yn gobeithio y bydd y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn talu am ofal cymdeithasol, yn helpu’r sefyllfa.