Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer yr athrawon sy’n cael eu targedu ar wefannau cymdeithasol.
Yn ddiweddar mae athrawon ledled Cymru yn dweud eu bod wedi cael eu recordio a’u huwchlwytho ar-lein gan ddisgyblion yn ddienw.
Mae’r cyfrifon TikTok, sydd wedi eu ffugio gan ddisgyblion, yn dangos pennau athrawon wedi eu rhoi ar ddelweddau pornograffig.
Yn ôl Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Addysg, Laura Anne Jones AoS, mae’r sefyllfa bellach “allan o reolaeth” ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.
“Mae athrawon ledled Cymru wedi’u targedu gyda fideos difenwol a sarhaus a bostiwyd gan y disgyblion hyn ar TikTok,” meddai.
“Rwy’n ymwybodol bod llawer o ysgolion bellach wedi ysgrifennu at rieni i roi gwybod o’r hyn sy’n digwydd.
“Ond mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod angen i’r llywodraeth weithredu nawr, gan weithio gyda sefydliadau cyfryngau cymdeithasol, i fynd i’r afael â fideos sarhaus sydd wedi’u hanelu at athrawon.
Ymddygiad anfoddhaol
Yn ystod Cwestiynau i’r Trefnydd, fe ddywedodd Lesley Griffiths ei fod yn “gwbl anfoddhaol bod athrawon yn profi’r fath ymddygiad” mewn ysgolion.
“Mae’r Gweinidog Addysg (Jeremy Miles) wedi cysylltu â Chyngor Diogelwch y Rhyngrwyd y Deurnas Unedig i sicrhau bod gennym ddull gweithredu ledled y Deyrnas Unedig ar y mater hwn, ac mae’r Cyngor Diogelwch wedi cysylltu â TikTok ynglŷn â’r mater hwn,” meddai.
“Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllawiau ar heriau ar-lein i ddangos y cymorth sydd ar gael i athrawon er mwyn gallu diogelu eu lles.
“Rwy’n siŵr hefyd bod fy nghyd-weithiwr yn ymwybodol ei bod yn Wythnos Gwrth-fwlio yr wythnos hon.
“Felly rydym yn gweithio gyda swyddfa Comisiynydd y Plant i hyrwyddo’r ystod o adnoddau ystafell ddosbarth sydd ar gael ar yr Hwb i gefnogi ymddygiad parchus ar-lein.
“Ond, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol bod llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn cydnabod eu cyfrifoldeb a’u dyletswydd gofal i’w defnyddwyr.”
Yn ôl Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru maen nhw wedi derbyn adroddiadau gan nifer fawr o ysgolion ac athrawon ledled Cymru.
Mae’r gymdeithas wedi ysgrifennu at TikTok yn mynnu “camau gweithredu brys” i daclo ymddygiad o’r fath mewn ysgolion.
Mynd at yr heddlu fel y dewis olaf
Eisoes mae’r Comisiynydd Plant, Sally Holland, wedi dweud y dylai hysbysu’r heddlu am faterion fel hyn fod yn “ddewis olaf”.
Anogodd ysgolion a rhieni i geisio siarad â’u phlant am ba gyfryngau cymdeithasol y maent yn eu defnyddio.
“Mae’n amlwg bod hwn yn fater gofidus ac annifyr i ysgolion, ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr ag athrawon a disgyblion a allai fod wedi cael eu heffeithio gan hyn,” meddai.
“Byddwn wir yn annog rhieni i fod yn ymwybodol o weithgareddau ar-lein eu plant – pa apiau maen nhw’n eu defnyddio, beth maen nhw’n ei wneud ar yr apiau hynny a beth yw’r tueddiadau presennol.”