Mae allforion o Ogledd Iwerddon i’r Weriniaeth wedi codi o 60% yn naw mis cyntaf y flwyddyn, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae allforion i’r cyfeiriad arall hefyd wedi codi 48% i gyrraedd 2.6 biliwn ewro dros yr un cyfnod.
Protocol Gogledd Iwerddon
Daw’r ffigyrau yn dilyn trafodaethau parhaus rhwng Llywodraeth Prydain â’r Undeb Ewropeaidd dros ddyfodol Protocol Gogledd Iwerddon.
Mae unoliaethwyr yn dadlau bod y trefniadau presennol ar ôl Brexit yn difrodi’r undeb, gan greu ffin ym Môr Iwerddon i bob pwrpas, gan fod Gogledd Iwerddon mwy neu lai’n parhau i fod ym marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.
Mae hi felly’n anos i nwyddau allu croesi o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan fod rhaid eu gwirio wrth groesi Môr Iwerddon.
Pryderon
Yn ddiweddar, fe wnaeth prif drafodwr Brexit y Deyrnas Unedig, yr Arglwydd Frost, fynegi pryderon ynglŷn ag effaith y protocol ar fasnachu rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
“Rwy’n credu nad oes amheuaeth bod y gwyriad o ran masnach, a’r ffordd mae’r protocol yn gweithio wedi pryderu pobol o ran cryfder cysylltiadau” meddai wrth BBC Radio Ulster.
“Mae hynny’n chwarae rhan yn y pryder cymdeithasol ac economaidd sydd wedi codi,” meddai.
“Ein bwriad yw datrys hynny mor gydsyniol a rhesymol â phosibl.”