Mae yna bryder ynghylch nifer y teithwyr sy’n dewis peidio â gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Yn ôl Heledd Fychan, AoS Plaid Cymru, mae hi wedi “derbyn sawl cwyn” am bobl sy’n “bryderus iawn nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel ar y trenau ar hyn o bryd.”
Awgrymodd yr aelod dros Ganol De Cymru bod “anghysondeb” ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru o ran gwneud cyhoeddiadau i deithwyr am wisgo gorchudd wyneb.
Gofynnodd Heledd Fychan: “A gaf hefyd ofyn i’r Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd am y wybodaeth ddiweddaraf am yr anghysondeb a welwn o ran gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru, o ran cyhoeddiadau ynglŷn â phwysigrwydd gwisgo gorchuddion wyneb?”
“Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod beth sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y cyhoeddiadau’n gyson a bod y negeseuon yn gwbl glir o ran pa mor hanfodol yw’r rhain.”
Dan gyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru mae gorchuddion wyneb yn ofynnol.
Atgoffa’r tocynydd i wisgo mwgwd
Wrth ymateb ar lawr y siambr fe ddywedodd Y Trefnydd, Lesley Griffiths, ei bod hi wedi gorfod gofyn i’r tocynydd ar dren i atgoffa teithwyr bod gwisgo gorchudd wyneb yn ofynnol.
“Des i lawr ar drên ddoe o ogledd Cymru. Roedd yn rhaid i mi ofyn i’r tocynydd i atgoffa eraill fod gwisgo gorchudd wyneb yn orfodol yng Nghymru, oherwydd byddwch yn deall wrth ddod lawr o Wrecsam rydych yn croesi’r ffin i Loegr,” meddai.
“Ac mae’n rhaid dweud fe wnaeth y teithwyr eraill gwrando a gwisgo eu masgiau hefyd.
“Felly, naill ai mae pobl yn gwneud y dewis, neu efallai nad ydynt yn gwybod ei fod yn orfodol yng Nghymru.”
Eisoes mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud eu bod yn cydweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Cymru i weithredu atgyfnerthu rheolau Llywodraeth Cymru.
“Rhan o’ch cit rygbi”
Gyda mwyfwy o bobl yn teithio i’r brifddinas i wylio cyfres Rygbi’r Hydref ar benwythnosau, mae Trafnidiaeth Cymru’n dweud y dylai gwisgo gorchudd wyneb fod yn “rhan o’ch cit rygbi” wrth deithio ar drenau.
Fe ychwanegodd y Gweinidog, ei fod “yn gwbl hanfodol bod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i wneud cyhoeddiadau” gan “sicrhau bod pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb.”
“Rwy’n gwybod eisoes bod y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrafnidiaeth [Lee Waters] yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru o gwmpas hynny.”
“Gorchudd wyneb yn rhan o’ch cit rygbi y penwythnos hwn,” medd Trafnidiaeth Cymru
“Angen gweithredu ar frys” wedi i fideo ddangos cefnogwyr wedi’u “gwasgu fel sardîns” ar drên
Pryder ynghylch llai o bobol yn gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau cyhoeddus