Mae pryderon wedi codi ynghylch gostyngiad yn nifer y bobol sy’n gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau cyhoeddus.

Fe wnaeth llefarydd iechyd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, alw ar y Llywodraeth i gryfhau’r negeseuon fod gwisgo mwgwd yn ofyniad cyfreithiol.

“Mae angen gwneud rhywbeth gwahanol rŵan er mwyn atgyfnerthu’r neges yna a sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu, achos mae’n amlwg bod y Ddeddf yn ei hun ddim yn ddigon,” meddai.

“Felly, mi fuaswn i’n ddiolchgar i gael deall gan y Gweinidog beth ydy’r math o feddwl arloesol sydd yn mynd ymlaen o gwmpas y cyfathrebu yna.

“Yn y dyddiau diwethaf dw i wedi cael pobol sy’n gweithio mewn fferyllfeydd, mewn siopau, mewn bwytai, pobol sydd yn bryderus am beth maen nhw’n ei weld yn eu bywyd bob dydd ar drafnidiaeth gyhoeddus.”

Yng Nghymru, mae angen gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ym mhob ardal dan do gyhoeddus ar wahân i dafarndai a bwytai.

Cyfrifoldeb yr unigolyn

Fe ddywedodd Eluned Morgan fod yn rhaid “inni gael y cyhoedd i ddod gyda ni ac mae’n rhaid inni gael y cyhoedd i ddeall bod hwn yn gyfrifoldeb arnyn nhw; mae’n ddeddfwriaeth,” meddai.

Ychwanegodd fod y Llywodraeth yn gwneud “eithaf lot nawr i geisio atgyfnerthu’r system” gan gydweithio’n agos gyd Thrafnidiaeth Cymru a’r “siopau mawr”.

Yn ôl arolwg gan Comix, mae’n debyg bod llai o bobol yng Nghymru yn gwisgo gorchudd wyneb yn awr o gymharu â Lloegr, lle nad yw’n orfodol eu gwisgo o gwbl.

Yn ôl eu canfyddiadau, mae’n debyg fod llai na 70% o bobol yng Nghymru bellach yn gwisgo gorchudd wyneb.

Roedd Trafnidiaeth Cymru yn annog teithwyr ymhellach i wisgo gorchuddion wyneb dros y penwythnos wrth deithio i’r brifddinas i wylio gêm rygbi Cymru yn erbyn Seland Newydd.

Ystyried pasys mewn tafarndai

Fe gododd Rhun ap Iorwerth ei ofid wrth weld torfeydd yn ymgasglu yn y tafarndai y tu allan i Stadiwm Principality cyn ac ar ôl y gêm.

Roedd yn rhaid i wylwyr sicrhau bod pàs covid ganddyn nhw neu brawf llif unffordd negyddol wrth gatiau’r stadiwm cyn cael mynediad.

“Mae’n werth stopio a meddwl am y ffaith fod pasys wedi cael eu gweithredu yn y stadiwm ddydd Sadwrn, ond ddim mewn tafarndai o gwmpas y stadiwm, a oedd yn llawn dop o bobol nad oeddent yn gwisgo mygydau a ddim wedi gorfod dangos unrhyw brawf o’u diogelwch i fod yno,” meddai.

Ddydd Gwener (Hydref 29), fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw’n ymestyn pasys Covid i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd, a rhybuddio efallai y bydd tafarndai, bwytai a chaffis hefyd yn gorfod gweithredu’r ddeddf os bydd cyfraddau heintio’n codi eto.

Gwrthod pleidleisio o blaid

Penderfynodd Plaid Cymru wrthod pleidleisio o blaid gan nad oedd tystiolaeth ddigonol wedi ei darparu am effeithiolrwydd y pasys.

“Gaf i apelio, plis, ar y Llywodraeth i gyfathrebu’n glir iawn sut y byddan nhw’n cefnogi unrhyw sefydliadau neu fusnesau fydd yn gorfod gweithredu pasys?” meddai Rhun ap Iorwerth wedyn.

“O ran mynd ymhellach i lefydd eraill—er enghraifft, y tafarndai—pan welais i’r torfeydd yng nghanol Caerdydd ar y penwythnos, mi oeddwn innau hefyd yn poeni am sut fyddai’r tafarndai yn edrych,” meddai Eluned Morgan wrth ateb.

“Rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gweithio gyda’r sector i wneud yn siŵr bod beth bynnag ry’n ni yn ei gyflwyno yn ymarferol.

“O ran y dechnoleg, dwi ddim yn ymwybodol bod y dechnoleg wedi gwella eto, ond dwi yn poeni yn arw am sut fydd y Nadolig yn edrych os byddwn ni’n gweld y math o olygfeydd welon ni ar y penwythnos yng Nghaerdydd dros bob man yng Nghymru, o ran pobol yn cymysgu pan fo Covid yn dal ar ei anterth.”