Mae datblygiad llety myfyrwyr wedi cael ei gymeradwyo yn Abertawe er gwaethaf newid mewn rheolau.

Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Abertawe roi’r golau gwyrdd i’r llety 12-llawr ar y Strand yng nghanol y ddinas.

Ond ymhen pedair wythnos, byddai’r datblygiad wedi bod yn annerbyniol oherwydd bod rheolau cynllunio newydd ynglŷn â llifogydd yn dod i rym yng Nghymru.

O Ragfyr 1, bydd polisïau newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, sydd am effeithio ar ardaloedd sydd mewn risg uchel o lifogydd neu erydu arfordirol.

Mae’r safle ar y Strand yn ardal sydd mewn perygl o lifogydd afon a môr yn ôl mapiau newydd sydd wedi eu cyhoeddi.

Er gwaethaf hynny, mae swyddogion cynllunio wedi dweud bod yr adeilad, sy’n cynnwys 312 o fflatiau stiwdio, yn cydymffurfio gyda rheolau presennol.

Mae’n debyg y bydd y cynllun yn “cynrychioli adfywiad sylweddol o’r safle”, ac yn lliniaru’r pwysau ar y farchnad dai yn y ddinas.

Pryderon

Mae’r Cynghorydd Mary Jones yn gofidio am ddiogelwch y myfyrwyr fyddai’n byw ar y Strand.

“Ers blynyddoedd, dw i wedi gweithio yn yr ardal ac mae dod allan i’r Strand yn y nos yn brofiad eithaf amhleserus,” meddai.

Mae hi’n bryderus am y diffyg goleuadau a llefydd i groesi’r ffordd yn agos i’r llety arfaethedig.

Dywed y byddai angen croesfan i gerddwyr yn yr ardal.

Fe wnaeth swyddogion dderbyn ei phryderon, a chytuno y byddai’n rhaid ystyried cyflwyno croesfan sebra a mwy o oleuadau yn rhan o’r cynllun.