Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i agor canolfannau galw i mewn er mwyn cynyddu nifer y bobol sy’n derbyn dos atgyfnerthu o’r brechlyn Covid-19.

Daw’r alwad ar ôl i ganolfannau galw i mewn gael eu hagor yn Lloegr i roi brechlyn atgyfnerthu i grwpiau penodol.

Mae’r grwpiau hynny’n cynnwys preswylwyr cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen, y rheiny sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol, a phob oedolyn dros 50 oed.

Mae Russell George, llefarydd iechyd yr wrthblaid, yn ofni y byddai peidio â gwneud hynny yng Nghymru yn rhoi’r Gwasanaeth Iechyd dan bwysau dros y gaeaf.

Galwadau

Er bod llawer o bobol wedi derbyn y cynnig am y dos cyntaf a’r ail ddod o’r brechlyn Covid-19, mae niferoedd ar gyfer y trydydd dos yn is.

Erbyn Hydref 31, roedd Cymru wedi rhoi brechlyn atgyfnerthu i 454,530 o bobol, neu 16.5% o bobol dros 12 oed.

Wrth ymateb i’r niferoedd hynny, mae Russell George yn dweud ei fod yn bryderus.

“Mae’r rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiannus iawn ledled y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Ond mae darpariaeth y pigiad atgyfnerthu yn peri pryder i fi.

Russell George

“Rwy’n credu y byddai’r niferoedd yn llawer uwch pe na fyddai’n rhaid i bobol aros i gael eu gwahodd, ac yn lle, eu bod nhw’n cael yr opsiwn o ganolfannau galw i mewn.

“Yn y cyfamser, mae pobol yn Lloegr yn gallu cerdded i mewn i ganolfan ar gyfer eu pigiad atgyfnerthu ond dydy pobol yng Nghymru ddim yn gallu gwneud hynny.

“Gobeithio y bydd y Gweinidog yn newid ei meddwl ac yn gweithredu ar frys ar ein galwadau rhesymol ni.”