Mae dyn wedi disgrifio’r profiad o gael ei drywanu yn ei wyneb cyn cael hyd i gorff ei lysferch 16 oed.
Clywodd Llys y Goron Merthyr dystiolaeth gan Yongquan Jiang yn dilyn llofruddiaeth Wenjing Lin mewn siop têcawê yn Ynyswen yng Nghwm Rhondda ar Fawrth 5.
Mae Chun Xu, 32, wedi’i gyhuddo o lofruddio Wenjing Lin ac o geisio llofruddio Yongquan Jiang.
Dywedodd Yongquan Jiang wrth y llys fod Xu wedi ei alw i lawr i selar y siop têcawê drwy ofyn am bysgodyn o’r rhewgell.
Yno, fe ymosododd arno â dwy gyllell a’i drywanu yn ei wddf.
Fe gwympodd i’r llawr, meddai, a hynny ar ôl llithro ar ei waed ei hun ac fe gafodd ei drywanu yn ei wyneb wedyn.
Dywedodd Xu mai “arian” oedd y rheswm am yr ymosodiad, a chlywodd y llys fod ar y diffynnydd £14,000 i’r teulu.
Ar ôl i Meifang Xu, gwraig Yongquan Jiang a mam Wenjing Lin, ddod i lawr y grisiau, ffoniodd hi ffrind am gymorth.
Aeth Yongquan Jiang i fyny’r grisiau i agor drws y siop i aros am ambiwlans, ac yno y daeth o hyd i gorff ei lysferch wrth y cownter.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac roedd e yno am bythefnos yn cael triniaeth am ryw ddeg o anafiadau, meddai.
Fe wnaeth Xu dorri ei wddf ei hun yn dilyn yr ymosodiad, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty lle cafodd ei arestio.
Clywodd y llys ei fod e eisiau “dial” ar Meifang Xu ar ôl mynd i ddyled yn sgil gamblo.
Roedd y llys eisoes wedi clywed fod y diffynnydd wedi chwilio ar y we am ateb i’r cwestiwn “A gaiff olion bysedd eu llosgi mewn tân?”
Clywodd y llys hefyd fod y diffynnydd wedi dwyn cyllell o siop arall ym Mhontypridd lle bu’n aros.
Mae’n cyfaddef ymosod ar Yongquan Jiang ond yn gwadu ei fod yn bwriadu ei ladd neu achosi niwed difrifol, ac mae e wedi pledio’n euog i ddynladdiad Wenjing Lin.