Mae Paul Davies, arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid i deuluoedd wrth geisio byw’n fwy gwyrdd.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 2), newid hinsawdd oedd y prif bwnc trafod wrth i’r Prif Weinidog ateb cwestiynau COP26 yn Glasgow trwy gyswllt fideo.

Fe ofynnodd Paul Davies sut roedd Llywodraeth Cymru’n bwriadu bod o gymorth i deuluoedd â chostau i fabwysiadu ffordd o fyw sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

“Bydd llawer o’r hyn sydd ei angen yn dibynnu ar bobol a theuluoedd yn newid eu hymddygiad – sut maen nhw’n teithio, yr hyn maen nhw’n ei fwyta a’r defnydd o ynni ac effeithlonrwydd eu cartrefi,” meddai.

Fe ddywedodd y Prif Weinidog na all y camau gweithredu fod “o’r brig i lawr yn unig” gan fynnu bod angen “sgyrsiau sydd wedi’u harwain ym mhob rhan o Gymru gan bob math o sefydliadau sy’n barod i chwarae rhan ynddo”.

Fe gyfeiriodd at gyfraddau ailgylchu fel enghraifft o ble mae modd i bawb chwarae eu rhan.

“Dywed y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd wrthym na fydd tua 60 y cant o’r camau sydd eu hangen i gyrraedd sero net yng Nghymru erbyn 2050 [wedi’u cymryd],” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae hyn yn dibynnu nid yn unig ar y pethau y mae llywodraethau’n eu gwneud, na hyd yn oed ar yr hyn y mae corfforaethau mawr yn ei wneud, ond ar yr hyn y mae pob un ohonom yn ei wneud yn ein bywydau unigol.”

Pethau bychain

Fe noddodd hefyd fod modd dilyn esiampl grwpiau fel Ysgol Mynydd y Garreg a Merched y Wawr Llansaint sydd â phrosiectau cymunedol ar y gweill i sicrhau bod “gweithredu amgylcheddol” yn digwydd o fewn eu cymunedau.

Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr yn datgelu’r cynlluniau ariannol hyn.

Bu Paul Davies yn tynnu sylw at y ffaith “fod y pwyllgor newid hinsawdd wedi dweud nad oedd y cynlluniau cyfredol yng Nghymru yn ddigonol”.

“Yn wir, o’r 61 risg a gafodd eu nodi gan y pwyllgor yn ei asesiad risg o effaith newid yn yr hinsawdd yn y Deyrnas Unedig, roedd yn destun pryder gweld bod 26 o’r risgiau wedi cynyddu ar frys ers yr adroddiad diwethaf yn ôl yn 2016,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.

Problemau technegol

Er bod y Senedd wedi cynnal sesiynau hybrid gyda rhai aelodau yn bresennol yn y Siambr ac eraill trwy gyswllt fideo, mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf i’r Prif Weinidog gymryd y cwestiynau wythnosol o’r tu allan i Gymru.

Bu’n rhaid i’r Llywydd ganiatáu seibiant am ychydig funudau ar ôl i’r Siambr golli cyswllt gyda’r Prif Weinidog.

Atebodd Mark Drakeford gwestiynau gyda llwyfan y gynhadledd yn gefnlen iddo.