Roedd un o ddau drên oedd mewn gwrthdrawiad yng Nghaersallog wedi mynd trwy olau coch ar ôl i’w olwynion lithro ar y cledrau.
Dyna farn ymchwilwyr sy’n ceisio darganfod beth oedd wedi achosi’r gwrthdrawiad.
Mae lle i gredu bod y gyrrwr wedi taro’r brêc cyn y cyffordd lle digwyddodd y gwrthdrawiad, ond fod y trên wedi methu dod i stop.
Bu’n rhaid achub y gyrrwr, sydd wedi cael anafiadau fydd yn newid ei fywyd.
Roedd e’n gyrru trên South Western Railway oedd mewn gwrthdrawiad â thrên Great Western Railway ger twnnel Fisherton am oddeutu 6.45 nos Sul (Hydref 31).
Cafodd 13 o bobol eraill driniaeth yn yr ysbyty.
Roedd y trenau’n teithio i’r un cyfeiriad ond ar gledrau gwahanol wrth iddyn nhw ddod tuag at y cyffordd, ac fe wnaethon nhw daro’i gilydd lle mae’r cledrau’n croesi cyn cyrraedd y twnnel.
Trên GWR oedd â’r flaenoriaeth, ac roedd disgwyl i drên SWR stopio wrth y goleuadau.
Mae ymchwilwyr yn cynnal ymchwiliad ar y cledrau ac yn dechrau holi tystion, ac mae’r gwaith o ddadansoddi lluniau camerâu cylch-cyfyng ar y gweill hefyd.