Mae ffordd A498 rhwng Beddgelert a Phen-y-pas wedi’i chau i’r ddau gyfeiriad oherwydd “digwyddiad sydd ar y gweill”, yn ôl Heddlu’r Gogledd.

Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud y bydd y ffordd ar gau hyd nes y bydd rhybudd pellach.

Maen nhw hefyd yn gofyn i deithwyr osgoi’r ardal a dod o hyd i lwybrau gwahanol i deithio.

Dydy’r heddlu ddim yn rhoi rhagor o fanylion ar hyn o bryd.