Mae gyrrwr un o’r ddau drên oedd wedi taro yn erbyn ei gilydd yng Nghaersallog neithiwr (nos Sul, Hydref 31) wedi cael anafiadau sy’n newid ei fywyd, yn ôl yr heddlu.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger twnnel am oddeutu 6.45yh, a chafodd 13 o bobol eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans, lle cawson nhw driniaeth am anafiadau.
Mae un person yn yr ysbyty o hyd, sef gyrrwr un o’r trenau, ac mae e mewn cyflwr sefydlog er gwaethaf ei anafiadau.
Roedd trên Great Western Railway oedd yn teithio o Southampton i Gaerdydd mewn gwrthdrawiad â thrên South Western Railway o Lundain i Honiton yn Nyfnaint ger twnnel Fisherton.
Tarodd un trên ochr y trên arall gan achosi iddo fynd oddi ar y cledrau, a hynny wrth i’r trenau deithio i’r un cyfeiriad ar gledrau gwahanol lle maen nhw’n croesi.
Roedd 92 o deithwyr ar y trenau ar y pryd.