Mae disgwyl i Barry Bennell, pedoffil sydd wedi’i garcharu am 34 o flynyddoedd, gynrychioli Clwb Pêl-droed Manchester City yn yr Uchel Lys, wrth i wyth dyn ddwyn achos yn eu herbyn yn ymwneud â’i droseddau pan oedd e’n gweithio iddyn nhw.

Mae disgwyl i Bennell roi tystiolaeth yn y gwrandawiad y mis yma.

Mae wyth dyn yn honni bod Bennell wedi’u camdrin nhw dros 30 mlynedd yn ôl pan oedden nhw’n chwarae i’r tîm ieuenctid.

Maen nhw’n dweud bod Bennell yn gweithio fel sgowt i’r clwb yng ngogledd-orllewin Lloegr ar y pryd.

Cafodd Bennell, sy’n 67 oed, ei garcharu am 34 o flynyddoedd am droseddau rhyw yn erbyn bechgyn ar bum achlysur gwahanol – pedwar yn y Deyrnas Unedig ac un yn yr Unol Daleithiau, a’i fod e dan glo yng ngharchar Littlehey ger Caergrawnt.

Roedd disgwyl i Bennell roi tystiolaeth fis Rhagfyr, ond fe fydd e’n ymddangos y mis hwn trwy gyswllt fideo o’r carchar.

Cefndir

Mae Mr Ustus Johnson wedi clywed bod yr wyth dyn wedi cael eu camdrin yn rhywiol ac yn emosiynol gan Barry Bennell rhwng 1979 a 1985, a’u bod nhw’n hawlio iawndal am anafiadau seicolegol.

Mae chwech ohonyn nhw hefyd yn hawlio iawndal am golledion ariannol posib.

Dywed un ohonyn nhw fod Bennell yn disgrifio’i hun fel cynrychiolydd Manchester City yng ngogledd-orllewin Lloegr yn ystod y cyfnod dan sylw.

Ond mae Manchester City yn gwadu hynny, gan ddweud mai sgowt lleol oedd e yn y 1970au, ac nad oedd ganddo fe gysylltiad swyddogol â’r clwb nac yn gweithio iddyn nhw yn y 1980au.

Mae’r clwb yn gwadu eu bod nhw wedi’i gyflogi fe ar yr adegau dan sylw ac maen nhw’n gwadu unrhyw gyfrifoldeb am ei droseddau.

Sefydlodd y clwb gynllun iawndal bedair blynedd yn ôl.

Yn ôl cyfreithwyr Manchester City, galw Bennell i roi tystiolaeth oedd yr unig opsiwn gan fod dau dyst allweddol arall, y cyn-brif sgowt Ken Barnes a chyn-ysgrifennydd y clwb, Bernard Halford bellach wedi marw.

Mae cyfreithwyr ar ran yr wyth yn dweud bod ei alw fel tyst yn “benderfyniad tactegol”.

Mae seiciatrydd yn dweud bod dau o’r wyth yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawma ac iselder.