Mae Gareth Bale wedi’i gynnwys yng ngharfan bêl-droed Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Belarws a Gwlad Belg.

Bydd tîm Rob Page yn herio Belarws ar Dachwedd 13, cyn wynebu Gwlad Belg dridiau’n ddiweddarach (Tachwedd 16), a’r ddwy gêm gartref yng Nghaerdydd.

Mae’n debyg fod angen pedwar pwynt ar Gymru o’r ddwy gêm olaf yn eu grŵp er mwyn gorffen yn ail uwchlaw’r Weriniaeth Tsiec yng Ngrŵp E.

Ond byddan nhw heb Kieffer Moore am y gêm gyntaf gan ei fod e wedi’i wahardd.

Bydd y Weriniaeth Tsiec yn herio Estonia gartref, ac mae eu gwahaniaeth goliau’n well na Chymru ac wedi sgorio mwy o goliau, sef y meini prawf pwysicaf pe bai’r ddau dîm yn gorffen yn gyfartal yn y grŵp.

Canfed cap Gareth Bale

Mae disgwyl i Gareth Bale ennill ei ganfed cap yn ystod y ffenest ryngwladol ddiweddaraf.

Dydy’r ymosodwr ddim wedi chwarae ers mis Medi pan gafodd e anaf “sylweddol” i linyn y gâr.

Ond mae disgwyl iddo fe gael ei gynnwys yn nhîm Real Madrid yn erbyn Rayo Vallecano yn La Liga, ac mae wedi’i enwi’n gapten ar garfan Cymru ar gyfer y ddwy gêm olaf yn eu hymgyrch.

Bale fydd yr ail Gymro erioed ar ôl Chris Gunter i ennill 100 o gapiau.

“Mae Gareth mewn lle da,” meddai Rob Page.

“Mae e’n union lle oedden ni a’r tîm meddygol yn credu y dylai fod.

“Fe siaradais i â fe ddydd Sadwrn ac mae e’n ysu i fwrw iddi.

“Mae e’n ôl ar y glaswellt ac yn gwneud popeth posib i gael ei hun 100% yn ffit.

“Dydy e ddim yn ymarfer yn llawn amser eto, ond mae gyda ni wythnos arall.”

Sgoriodd Bale hatric yn y gêm yn erbyn Belarws, ond dydy e ddim wedi chwarae dros ei wlad ers y gêm ddi-sgôr yn erbyn Estonia ddeufis yn ôl.

“Os oes angen i ni gadw at gynllun maen nhw [Real Madrid] eisiau ei roi ar waith, bydden ni’n barod i’w wneud e oherwydd rydyn ni eisiau Gareth yn rhan o’r garfan.

“Mae ganddo fe berthynas dda â’r rheolwr [Carlo Ancelotti] a’r tîm meddygol yno, a ninnau hefyd.

“Mae’n rhaid cael sgwrs ac mae’n fater o ymddiried yn ein gilydd,” meddai wedyn, gan wfftio’r awgrym y gallai Real Madrid geisio’i atal rhag chwarae dros Gymru.

“Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn.”

Aaron Ramsey

Dim ond chwe munud mae Aaron Ramsey wedi’u chwarae i Juventus ers dechrau’r gemau rhagbrofol yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ac Estonia fis diwethaf.

Fydd e ddim ar gael i’w glwb yng Nghynghrair y Pencampwyr nos fory (nos Fawrth, Tachwedd 2) oherwydd anaf i’w gyhyr.

“Mae e’n dysgu yn ei 30au i reoli ei gorff, all e ddim gwneud beth wnaeth e yn ei 20au,” meddai Page.

“Mae e wedi cydnabod fod yna dipyn o flinder yn y cyhyr, ac fe dynnodd ei hun yn ôl, sy’n synhwyrol.

“Byddai Aaron fwy na thebyg wedi gwthio’i hun bum mlynedd yn ôl a thorri i lawr.”

Dymuno’n dda i David Brooks

Mae Rob Page hefyd wedi dymuno’n dda i David Brooks, sy’n derbyn triniaeth am ganser, ac wedi canmol tîm meddygol Cymru am ddod o hyd i’r salwch.

Tynnodd Brooks ôl o’r gemau yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ac Estonia ar ôl cael profion.

Mae Ben Cabango a Will Vaulks yn y garfan yn lle Tom Lockyer a Matt Smith.

Y garfan

Gôl-geidwaid: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies;

Amddiffynwyr: Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon, Neco Williams, James Lawrence, Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango.

Canol cae: Aaron Ramsey, Joe Allen, Ethan Ampadu, Jonny Williams, Harry Wilson, Joe Morrell, Dylan Levitt, Will Vaulks, Sorba Thomas.

Ymosodwyr: Gareth Bale, Daniel James, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Brennan Johnson, Rubin Colwill, Mark Harris.