Mae Wynford Ellis Owen yn galw ar Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu polisi o werthu alcohol yn ystod gemau rhyngwladol.

Roedd o wedi bod yn gwylio’r gêm yn erbyn Seland Newydd dros y penwythnos, ac yn bryderus wrth weld pobol yn ymweld â’r bar yn gyson.

Mae wedi brwydro ag alcoholiaeth drwy gydol ei fywyd, ac eleni, mae’n dathlu 30 mlynedd heb ddiod.

Bellach, mae’n Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol i wasanaeth Adferiad Recovery, ac roedd yn sylfaenydd a chyn-brif weithredwr yn Stafell Fyw Caerdydd, canolfan sy’n delio â phob math o ddibyniaethau.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyflwyno adrannau di-alcohol yn Stadiwm Principality, ond mae’n credu bod angen gwneud mwy i wella profiadau pobol wrth wylio gemau.

Roedd yr undeb wedi rhwystro gwerthiant alcohol yn ystod gemau rhyngwladol yn yr haf oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Dydy hynny ddim bellach yn berthnasol ar gyfer gemau’r hydref, ac mae’r bariau wedi ailagor yn y stadiwm.

‘Ai rygbi neu alcohol sy’n gyrru’r drol yn fan hyn?’

Roedd Wynford Ellis Owen wedi cael tocynnau yn yr adran ddi-alcohol i ddechrau, ond roedd o wedi rhoi’r rheiny’n anrheg i’w deulu, ac wedi cael seddi eraill yn eu lle.

“Ro’n i jyst yn sylwi ar un neu ddau yn mynd yn ôl ac ymlaen i’r bar,” meddai wrth golwg360.

“Roedden nhw’n mynd yn fwy a mwy meddw yn ystod y gêm, a doedden nhw’n dangos dim parch at y chwaraewyr nac unrhyw un arall oedd yn trio gwylio’r gêm.

“Roedden nhw’n treulio’r rhan fwyaf o’r gêm yn y bar, a’n mynd yn ôl ac ymlaen i’r toiledau.”

Wynford Ellis Owen

“Dw i’n deall bod gan [Undeb Rygbi Cymru] broblemau ariannol, ond pan mae arian yn dod uwch popeth, mae yna broblem,” meddai. “Yr unig reswm maen nhw’n cadw’r bar ar agor yn ystod y gêm ydi i wneud pres.

“Mae o’n biti garw na fydden nhw ond yn stopio gwerthu yn ystod y gêm. Mae o wedi mynd yn ddiwylliant rŵan lle mae’n arferol mynd i dafarn i yfed cyn y gêm, yfed drwy gydol y gêm, a ffeindio bar ar ôl y gêm.

“Dw i’n derbyn bod yfed wastad wedi bod yn rhan o’r diwylliant, ond mae’r tocynnau yn costio cymaint rŵan – rhyw £75 dalais i – y lleiaf gallwn i ddisgwyl ydi llonyddwch i fwynhau’r gêm.

“Mae rhywun yn meddwl ai rygbi neu alcohol sy’n gyrru’r drol yn fan hyn?”

Galw ar yr Undeb

Roedd profiad Wynford Ellis Owen yn ystod y gêm wedi gwneud iddo ailfeddwl mynd i weld gemau byw yn y dyfodol.

“W’n i ddim os a’ i yna eto,” meddai.

“Doedd hi ddim yn gêm arbennig inni ar y gorau, efo’r Crysau Duon yn chwarae’n ardderchog, ond roeddwn i’n flin a’n siomedig ‘mod i wedi talu cymaint.

“Hefyd, roedd fy wyres ieuengaf yn dod am y tro cyntaf, a dyna oedd ei phrofiad cyntaf hi.

“Mae rygbi yn rhywbeth i bawb a phopeth, dw i’n derbyn hynny, ond y peth lleiaf fedran nhw ei wneud ydi cau’r bar yn ystod y gêm.

“Yn y pen draw, mae’n dangos beth yw’r blaenoriaethau – gwneud arian ar draul popeth arall.

“Dw i’n annog yr Undeb i feddwl o ddifrif am hyn, achos mae llawer un wedi diflasu.”

‘Natur alcohol ydi bod o’n cymryd drosodd pob dim’

Mae’n credu bod gor-yfed yn broblem sy’n estyn tu hwnt i chwaraeon, yn enwedig ymysg y dosbarth canol a merched yn eu canol oed, ac mae’n galw ar bobol i dynnu mwy o sylw at y risgiau.

“Dw i’n credu fod rhaid inni gydnabod yn hwyr neu’n hwyrach yr arwyddion,” meddai.

“Does dim ffordd newid dim byd yn y tymor byr, achos mae o wedi’i normaleiddio i’r fath raddau rŵan fel ei bod hi’n annormal i beidio cael alcohol o’r crud i’r bedd.

“Oes wyt ti’n gwerthu dy enaid i alcohol, natur alcohol ydi bod o’n cymryd drosodd pob dim.

“Mae yna hen ddywediad, sy’n mynd fel hyn: ‘Mae dyn yn cymryd diod. Yna, mae’r ddiod yn cymryd diod. Yna, mae’r ddiod yn cymryd y dyn.’”