Mae disgwyl i Gaerdydd gyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo Taulupe Faletau’r wythnos hon.
Mae’n debyg bydd yr wythwr yn ymuno o Gaerfaddon yn Uwchgynghrair Lloegr pan fydd ei gytundeb â’r clwb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.
Fe ymunodd y gŵr 30 oed â Chaerfaddon o ranbarth y Dreigiau yn 2016.
Dydy o heb chwarae eto’r tymor hwn oherwydd anaf i’w ffêr, ond mae wedi ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref.
Doedd y chwaraewr, sydd ag 86 cap i Gymru, ddim ar gael ar gyfer y golled yn erbyn Seland Newydd oherwydd bod y gêm brawf honno yn disgyn tu allan i’r ffenestr rygbi rhyngwladol, a doedd chwaraewyr sydd yng nghlybiau Lloegr ddim yn cael eu rhyddhau.
Aduniad
Faletau fydd yr ail Gymro i symud o Gaerfaddon i Gaerdydd ers dechrau eleni, ar ôl i Rhys Priestland ddychwelyd i chwarae yn ei famwlad.
Roedd Priestland wedi ymuno â’r clwb yn ne orllewin Lloegr yn 2015, flwyddyn cyn i Faletau fynd yno, a golygodd hynny ei fod ond yn cael ei ddewis yng ngharfan Cymru yn achlysurol.
Bydd blaenasgellwr Wasps, Thomas Young, yn ymuno â’r clwb yn y brifddinas ar ddiwedd y tymor hefyd, sy’n golygu ei fod yn gymwys i chwarae dros Gymru unwaith eto.
Cadarnhad
Mae Clwb Rygbi Caerfaddon wedi cadarnhau ymadawiad Faletau “ar ddiwedd y tymor hwn”.
Maen nhw’n dweud ei fod e am adael “gan lygadu Cwpan y Byd 2023”.
Mae e wedi chwarae 64 o weithiau i Gaerfaddon.
“Bydda i’n gweld eisiau’r tîm a phawb yn y clwb, ond yn fy nghalon dw i eisiau dychwelyd i Gymru a gobeithio parhau â’m huchelgais o chwarae’n rhyngwladol,” meddai Faletau mewn datganiad.