Mae Rob Roberts, Aelod Seneddol Delyn, wedi cael ei aildderbyn i’r Blaid Geidwadol yn dilyn cyhuddiad o gamymddygiad rhywiol.
Cafodd yr aelod ei wahardd gan y blaid am 12 wythnos ym mis Awst, ac fe gafodd ei wahardd o San Steffan am chwe wythnos ym mis Mai.
Roedd wedi bod o dan bwysau i ymddiswyddo o’i rôl fel aelod seneddol, ond doedd dim rheidrwydd arno i wneud hynny oherwydd bod y gosb wedi’i rhoi gan banel annibynnol yn hytrach na phwyllgor seneddol.
Er bod ganddo aelodaeth, dydy ei chwip Dorïaidd yn dal heb gael ei roi yn ôl iddo, felly bydd yn parhau i fod yn aelod annibynnol.
Cyhuddiadau
Roedd Rob Roberts wedi ei gyhuddo ym mis Mai eleni o dorri polisi camymddwyn rhywiol y blaid.
Daeth panel i’r casgliad ei fod o wedi mynd at ddyn mewn modd rhywiol nad oedd e’n ei groesawu.
Yn ôl Syr Stephen Irwin, cadeirydd y panel, roedd yn euog o gamymddwyn “sylweddol”, ac roedd o wedi manteisio ar ei rym dros y sawl sydd wedi cwyno.
Dywed fod gwaharddiad o chwe wythnos “yn briodol ac yn gymesur”.
Parhau’n aelod
Yn dilyn y cyhuddiad, roedd Rob Roberts yn mynnu y byddai’n parhau’n aelod seneddol, er ei fod yn cyfaddef iddo “dorri ymddiriedaeth” yn sgil ei ymddygiad.
Dywedodd mewn datganiad ei fod o “mewn lle heriol yn bersonol” ar ddechrau 2020, a’i fod o wedi gwahodd aelod o staff am bryd o fwyd yn y gobaith o ddechrau perthynas, ond ei fod o bellach yn cydnabod “na ddylai hynny fod wedi digwydd”.
Roedd o wedi ymddiheuro wrth yr aelod o staff, ei deulu ei hun, ei gydweithwyr a’i etholwyr.
Roedd o hefyd yn dweud mai cael cynrychioli etholaeth Delyn yw “anrhydedd fwyaf” ei fywyd, ac y byddai’n “gweithio’n ddiflino i adfer unrhyw ffydd a gollwyd yn sgil y dyfarniad hwn”.