Bydd cyfres o ddarlithoedd yng nghwmni’r hanesydd canoloesol Dr Euryn Roberts yn gyfle i “dwrio hanes cestyll Gogledd Cymru” ac i “ystyried cestyll yn y meddwl a’r dychymyg Cymreig”, meddai.
Fe fydd y sesiynau’n digwydd ar dair nos Lun yn olynol, gan ddechrau ar Dachwedd 8, dan nawdd Menter Caerdydd, a bydd y ddarlith gyntaf yn edrych ar gestyll Oes y Tywysogion (1063-1283), a chestyll Cymreig yn bennaf, a’r ail yn edrych ar gestyll Edward I.
Fe fydd y ddarlith olaf yn ystyried y cestyll yn y dychymyg Cymreig, a’r hyn mae Cestyll y Tywysogion a Chestyll y Goncwest wedi’i olygu i bobol ar ôl yr Oesoedd Canol.
Yn ôl Dr Euryn Roberts, sy’n ddarlithydd mewn Hanes Canoloesol a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, mae’r cestyll hyn yn “cael eu tynnu mewn i ddadleuon ynglŷn â phwy ydyn ni heddiw, a sut wlad rydyn ni am fod, a sut rydyn ni am werthu Cymru” yn aml.
Mae pwysigrwydd y cestyll, a’u hystyr, yn amrywio yn dibynnu ar bwy sy’n eu hystyried, meddai, ond mae ganddyn nhw bwysigrwydd economaidd a thwristaidd yn dal i fod.
‘Faint o nodweddion Cymreig?’
Yn ôl Dr Euryn Roberts, mae’r cestyll Cymreig yn dangos bod y Tywysogion Cymreig yn agored i’r byd Eingl-Ffrengig, bod ganddyn nhw adnoddau, a’u bod nhw am gyflwyno’u hunan fel arweinwyr ar lefel Brydeinig neu Ewropeaidd.
“Rydyn ni’n tueddu i feddwl am y Tywysogion, efallai, fel pobol mwy ynysig neu eu bod nhw’n greaduriaid sy’n perthyn i ryw Gymru Oes Arwrol cyn y Goncwest, ond mae cestyll y Tywysogion Cymreig yn dangos i ni eu bod nhw’n agored iawn i’r byd tu allan i Gymru,” meddai wrth golwg360.
“Roedd Llywelyn Fawr, yr “adeiladwr cestyll Cymreig mwyaf blaenllaw”, yn briod â Siwan merch y Brenin John, er enghraifft.
“Felly, faint o nodweddion Cymreig sydd yna i’r cestyll Cymreig? Gan gofio mai rhywbeth ddaeth yn sgil dyfodiad y Normaniaid oedd y cestyll.
“Roedd y Cymry dal i adeiladu llysoedd ac yn byw yn eu llysoedd, ond mae’r cestyll yma’n rhyw fath o symbol o’r ffordd roedden nhw’n cadw fyny efo gwerthoedd a thechnegau milwrol eu cymdogion.”
Fel arfer, mae hysbysfyrddau sy’n rhoi hanes cestyll yn tueddu i sôn am y cyd-destun canoloesol, meddai, er bod y cestyll wedi bod yno am ganrifoedd wedyn.
“Roedd Biwmares, er enghraifft, yn lleoliad Eisteddfod yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mi fuodd y Dywysoges Fictoria, cyn iddi fod yn Frenhines, yn yr Eisteddfod yma,” meddai.
“Rydyn ni’n gallu dweud lot am y syniadau ynghylch yr hunaniaeth Gymreig, sut mae Cymry’n gweld eu hunain yn y ffordd maen nhw’n tueddu i feddwl am y cestyll yma dros y canrifoedd.
“Yn fwy diweddar, gweld nhw fel bathodynnau’r goncwest, ond os fysa ni’n ôl ryw gant a hanner o flynyddoedd yn ôl mae rhywun yn dod ar draws barddoniaeth Gymraeg sy’n gweld y cestyll yma fel symbol bod y Cymry ymhlith y bobol gyntaf i gael eu derbyn i mewn i’r Ymerodraeth Brydeinig.”
Y tai haf Seisnig cyntaf?
Mae Dr Euryn Roberts wedi ysgrifennu am y datgysylltiad rhwng y Cymry a’r ffordd mae treftadaeth dwristaidd, a chestyll, yn cael eu marchnata.
Mae’r cestyll yn parhau i fod â phwysigrwydd ariannol a thwristaidd, ond yn ôl Dr Euryn Roberts mewn darn yn The Conversation, mae’n rhaid i Gymru ddod o hyd i naratif y gall ymwelwyr ymgysylltu â hi ac y mae’r Cymry yn gytûn arni er mwyn gallu hyrwyddo Cymru ar lwyfan rhyngwladol.
Arweiniodd Gŵyl y Cestyll 1983, lle mai’r bwriad oedd cynnal gŵyl i ddenu twristiaid rhyngwladol a hynny drwy ganolbwyntio ar gestyll, at ddadlau yn sgil y gwahanol ffyrdd y mae posib dehongli cestyll Cymru.
“Roedd o’n llwyddiant yn fasnachol, ond yr ochr allan i’r geiniog honno hefyd ydi’r ffaith bod cestyll Edward I, y rhai sy’n dod â’r mwyaf o dwristiaid neu sydd â statws UNESCO hefyd, maen nhw hefyd yn gestyll sydd ynghlwm â throbwynt yn hanes gwleidyddol Cymru – y Goncwest,” meddai Dr Euryn Roberts wedyn.
“Mae rhywun yn gorfod cofio’r cyd-destun hwnnw, ac weithiau dydi rhywun ddim yn teimlo bod y rhai sy’n gwerthu ac yn marchnata’r cestyll yma o hyd yn ymwybodol bod yna oblygiadau i hynny, neu nad pawb sy’n mynd i fod yn gweld y cestyll yma yn yr un ffordd,” ychwanegodd, gan gyfeirio at y gwrthwynebiad i osod Cylch Haearn yng Nghastell y Fflint ychydig flynyddoedd yn ôl.
“Mae’r cestyll yma hefyd, yn y blynyddoedd diwethaf… un ffordd o’u delweddu nhw ydi fel y tŷ haf Seisnig cyntaf yng Nghymru.”
‘Symbolau o orthrwm’
“Felly be’ ydi’u hystyr nhw heddiw? Eto, mae’n dibynnu pwy sy’n edrych arnyn nhw,” meddai Dr Euryn Roberts wedyn.
“I rai, maen nhw’n symbolau o orthrwm. Yn y 70au a’r 80au roedd yna gymdeithas o’r enw Cofiwn, ac ymhlith yr hyn roedd Cofiwn am ei weld yn digwydd oedd bod yna erddi cofio yn y cestyll yma.”
Bwriad Cofiwn oedd eu bod nhw’n dod yn llefydd i bobol gofio, i’w “trin bron iawn fel cofebion rhyfel”, eu bod nhw’n symbol poenus o hanes Cymru yn hytrach na llefydd i’w mwynhau.
“Wrth gwrs, roedd hyn hefyd yn digwydd yng nghyd-destun Thatcher, roedd o yn y cyfnod lle’r oedd Cymru wedi gwrthod mesur o ddatganoli yn 1979,” meddai.
“Yn aml iawn, mae’r cestyll yma’n cael eu tynnu mewn i ddadleuon ynglŷn â phwy ydyn ni heddiw, a sut wlad rydyn ni am fod, a sut rydyn ni am werthu Cymru.”
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Menter Caerdydd.