Dywedodd dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio merch 16 oed ac o geisio llofruddio’i llystad yn y Rhondda, wrth yr heddlu ei fod e “eisiau dial” ar fam y ferch.

Mae Chun Xu, 32, wedi’i gyhuddo o lofruddio Wenjing Lin, oedd hefyd yn cael ei hadnabod wrth yr enw Wenjing Xu, ym mwyty têcawê Blue Sky ym mhentref Ynyswen yng Nghwm Rhondda.

Roedd Wenjing yn byw uwchlaw’r siop gyda’i mam, Meifang Xu, a’i llystad Yongquan Jiang.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Merthyr fod Chun Xu yn gamblo’n sylweddol a bod arno fe £14,000 i’r teulu.

Aeth i ymweld â nhw â chyllell yn ei feddiant ac oriau cyn yr ymosodiad, fe aeth ati i chwilio am ateb i’r cwestiwn “all olion bysedd gael eu dinistrio mewn tân?”

Pan gafodd ei asesu gan seicolegydd cyn cael ei holi gan yr heddlu, dywedodd nad oedd yn bwriadu gwneud niwed i Wenjing Xu, a’i fod e “eisiau dial ar ei fam”.

Dywedodd ei bod hi wedi ei ypsetio “sawl gwaith” ac nad oedd hi’n “gwrando” ar yr hyn roedd yn ei ddweud.

Cefndir

Roedd Chun Xu yn cael ei ystyried yn nai i’r fam, gan fod y rhieni’n byw drws nesaf i’w gilydd yn Tsieina, ond dydyn nhw ddim yn perthyn.

Fis Rhagfyr y llynedd, rhoddodd y teulu £20,000 i Xu i’w ddanfon i Tsieina er mwyn talu ffrind oedd wedi rhoi benthyg arian iddyn nhw gael dechrau busnes yn y Deyrnas Unedig.

Ond cyfran o’r arian yn unig anfonodd e, gan gamblo £14,000 o’r swm, ac roedd e wedi dechrau ad-dalu’r arian yn ddiweddarach.

Ar Fawrth 4 eleni, ffoniodd e Ms Xu a gofyn a gâi ddod i’w gweld nhw ond fe ddywedodd wrthi am beidio â dweud wrth neb am yr ymweliad.

Y noson honno, buon nhw’n bwyta gyda’i gilydd cyn mynd i’r gwely.

Y bore canlynol, fe wnaeth e ladd Wenjing ac ar ôl hynny, mae lle i gredu iddo ddenu ei llystad, Mr Jiang, i’r selar drwy ofyn am bysgodyn o’r rhewgell.

Yno, fe ymosododd e arno â dwy gyllell, a’i drywanu yn ei wddf a’i gorff.

Dywedodd mai “arian” oedd y rheswm am yr ymosodiad, a chafodd ei wraig ei brathu wrth geisio ymyrryd.

Aeth i fyny’r grisiau wedyn i ddod o hyd i Wenjing, ac fe ddaeth o hyd iddi’n gorwedd ar lawr ger cownter y bwyty.

Er iddi gael triniaeth, bu farw Wenjing yn y fan a’r lle.

Daeth yr heddlu o hyd i Xu yn y gegin wedi torri’i wddf ei hun, ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd cyn cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio.

Cafwyd hyd i £900 yn ei bocedi, ynghyd â ffôn symudol ac allweddi Wenjing.

Cafodd Mr Jiang ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau hefyd.

Mae Xu yn gwadu’r cyhuddiadau, ond mae e wedi pledio’n euog i ddynladdiad Wenjing ac o niweidio Mr Jiang.

Mae disgwyl i’r achos bara pythefnos, a bydd y diffynnydd yn cael cymorth cyfieithydd ar y pryd.

Fe gadarnhaodd ei enw a chyflwyno’i ble.

Mae’r achos yn parhau.