Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r gostyngiad yn nifer gwlâu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Fe wnaeth nifer gwlâu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ostwng o 10,564 i 10,340 rhwng 2019/20 a 2020/21, sef blwyddyn gyntaf y pandemig.
Mae’r Ceidwadwyr yn nodi bod nifer y gwlâu wedi gostwng 30% yng Nghymru ers i ddatganoli gael ei gyflwyno yn 1999.
Roedd nifer cyfartalog y gwlâu llawn o ddydd i ddydd hefyd wedi gostwng 20.6% i 7,170 i 2020/21, ond mae’n debyg bod hynny’n adlewyrchu’r gostyngiad yn y cyfraddau gofal a oedd wedi ei drefnu o flaen llaw.
Daw’r ystadegau hyn yn dilyn y cyhoeddiad fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi dioddef yr amseroedd aros hiraf, gydag un ym mhob pedwar claf yn disgwyl dros flwyddyn am driniaeth ac amseroedd ymateb ambiwlans yn arafach.
Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig
Wrth ymateb i’r ffigyrau, mae Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, yn amheus o’r gostyngiad, ac yn galw am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.
“Mae angen gofyn cwestiynau pam fod Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn credu ei bod wedi bod yn briodol torri gwlâu’r Gwasanaeth Iechyd yn erbyn cyngor gweithwyr meddygol proffesiynol a phan fo’r galw yn parhau i gynyddu,” meddai.
“Mae yna gwestiynau difrifol dros ddyfarniad gweinidogion Llafur. Mae angen mwy o wlâu arnon ni, nid llai, os ydyn ni am adfer o’r pandemig a mynd i’r afael â’r amseroedd aros enfawr a oedd eisoes wedi dyblu yn y flwyddyn cyn i’r feirws daro.
“Rydyn ni’n gwybod bod diffyg gwlâu yn rhwystr enfawr i sicrhau gofal prydlon a phriodol i’r cleifion sy’n talu eu trethi i ariannu’r Gwasanaeth Iechyd, felly dydy eu torri nhw ddim yn gwneud unrhyw synnwyr.
“Wrth gwrs, byddai angen mwy o staff gofal iechyd arnon ni pe bai mwy o wlâu, ond ar hyn o bryd mae 3,000 o swyddi gwag yn y Gwasanaeth Iechyd, ac mae sawl Llywodraeth olynol yng Nghymru wedi cael chwarter canrif i siapio’r gwasanaeth.
“Mae hwn hefyd yn ein hatgoffa’n amserol pam fod angen ymchwiliad Covid penodol i Gymru arnon ni, fel bod modd i bobol gael yr atebion sydd eu hangen arnyn nhw ynglŷn â pham fod nifer y gwlâu yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn cyn i’r feirws daro a pham fod dros 200 yn llai ar gael o’i gymharu â phryd y gwnaeth y feirws daro.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r ystadegau hyn yn cwmpasu ton gyntaf y pandemig pan gymerwyd camau eithriadol i aildrefnu llawer o driniaethau a gweithrediadau arfaethedig y GIG i sicrhau y gallai’r gwasanaeth iechyd ymateb i bwysau pandemig a’r nifer fawr o bobl a oedd yn ddifrifol ac yn ddifrifol wael ar ôl cael coronafeirws.
“Cafodd 6,000 o welyau ychwanegol eu creu yn ystod y pandemig drwy ysbytai maes ac fe’u hagorwyd neu wrth gefn ar wahanol adegau o’r pandemig.
“Rydym yn buddsoddi symiau uchaf erioed yn ein GIG a’n strategaeth hirdymor yw darparu gofal yn nes at adref drwy gynyddu gwasanaethau cymunedol a meddygon teulu.
“Mae datblygiadau mewn gwyddoniaeth feddygol dros yr 20 mlynedd diwethaf hefyd wedi golygu newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau ysbyty, er enghraifft rhai llawdriniaethau sydd wedi’u cynnal yn flaenorol gan fod cleifion mewnol bellach yn cael eu gwneud fel llawdriniaeth ddydd.
“Adlewyrchir hyn ar draws holl wledydd y DU a brofodd ostyngiadau tebyg dros y cyfnod hwn o ganlyniad i ffyrdd mwy arloesol o weithio.”