Mae dynes 27 oed wedi cael ei hanafu’n ddifrifol wedi gwrthdrawiad ar yr A496 ger Abermaw neithiwr (nos Sul, Hydref 31).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad am 8.10yh, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud ag un car, Volkswagen Golf.

Roedd y car yn teithio o gyfeiriad Abermaw tuag at Ddolgellau, ac fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger goleuadau traffig dros dro ar lannau afon Mawddach.

Fe gafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans, ond mae hi bellach wedi ei symud i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke, lle mae hi mewn cyflwr difrifol.

Apêl

Mae’r Sarjant Emlyn Hughes o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion.

“Rydyn ni’n gwybod bod y Volkswagen Golf wedi teithio o gyfeiriad Abermaw tuag at Ddolgellau, felly rwy’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi’i weld yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni,” meddai.

“Rwyf hefyd yn annog unrhyw un a allai fod â lluniau dash cam neu deledu cylch cyfyng preifat, a allai fod wedi dal y car yn cael ei yrru i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl

“Mae menyw wedi cael anafiadau difrifol, sy’n peryglu ei bywyd ac mae angen i ni ddarganfod ar frys beth ddigwyddodd.”

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth i’r ymchwiliad parhaus yn cael eu hannog i gysylltu â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru un ai dros y we neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 21000757951.