Mae Glyn a Menna Heulyn, perchnogion un o westai eiconig Cymru, Gwesty’r Harbwr / Yr Harbourmaster yn Aberaeron, wedi gwerthu’r busnes ar ôl 20 mlynedd.

Mewn datganiad, maen nhw’n dweud bod swyddi’r 34 aelod o staff yn ddiogel.

Y perchnogion newydd yw Wells a Louise Jones, o’r Cliff Hotel & Spa, Gwbert Hotel & Flat Rock Bistro, Gwbert Holidays, y Grosvenor a’r The Angel Hotel, sydd gyda’i gilydd yn ffurfio’r Flatrock Group.

“Rydym yn falch ofnadwy fod y gwesty yn cael ei werthu i gwpwl lleol ifanc, dymunwn pob llwyddiant I’r dyfodol iddynt a’r staff,” meddai Menna.

“Mae’r Harbourmaster wedi bod yn ganolog i’n bywydau yr 20 mlynedd diwethaf.

“Ychydig feddyliom pan brynom yr adeilad yn 2001 y byddem yn siario’r daith gyda chymaint o unigolion talentog sydd wedi gwneud cyfraniad mor fawr, ym mhob adran, rheolwyr, cogyddion, staff gweini, a gofal ty.

“Ein breuddwyd yn y dechrau oedd creu lle i aros oedd yn groesawgar, cwl â llawn steil ac i ddarparu bwyd a diod lleol o safon. Fel dau o’r ardal roeddem yn gwybod fod y lleoliad yn un arbennig. Roedd yn nôd i roi Aberaeron ar y map o lefydd unigryw i aros yng Nghymru.”

Gwesty adnabyddus

Dros yr ugain mlynedd, mae’r gwesty wedi cael sylw rheolaidd ym mhapurau cenedlaethol Prydain, ar rasglenni teledu fel The Holiday Programme, roedd yn ffocws i gyfres S4C Teulu, ac wedi bod yn rhan o gynlluniau marchnata Twristiaeth Cymru.

Roedd yn un o westai ‘boutique’ cyntaf Cymru hefyd.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sefydlu busnes sy’n boblogaidd gyda pobl lleol yn ogystal a chwsmeriaid o bedwar ban byd,” meddai Glyn wedyn.