Mae gwasanaethau trên yng Nghymru yn debygol o gael eu heffeithio am rai dyddiau yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaersallog neithiwr (nos Sul, Hydref 31).
Roedd o leiaf 13 o bobol wedi cael eu gyrru i’r ysbyty ar ôl i ddau drên daro i mewn i’w gilydd yn y ddinas yn Wiltshire, ac mae o leiaf dri ohonyn nhw’n parhau i gael eu trin.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys achub tua 100 o bobol o’r trenau yn dilyn y ddamwain.
Bydd y llinell rhwng Caerdydd a dinasoedd gan gynnwys Portsmouth a Brighton yn ne-ddwyrain Lloegr yn cael ei heffeithio.
Mae’r swyddfa Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol yn dweud y bydd mwyafrif y gwasanaethau sy’n mynd drwy Caersallog wedi eu gohirio tan o leiaf diwedd dydd Iau.
Gwrthdrawiad
Dywed cwmni Network Rail fod un o gerbydau taith Great Western Railway o Portsmouth i Fryste wedi dod oddi ar y cledrau yng Nghaersallog ar ôl “taro gwrthrych.”
“Ar ôl i’r cerbyd ddod oddi ar y cledrau, fe wnaeth ddiffodd yr holl arwyddion yn yr ardal,” meddai’r cwmni.
“Yn dilyn hynny, fe wnaeth y trên 17:20 o orsaf Waterloo Llundain i Honiton daro i mewn i’r trên o Fryste.”
Ymchwiliad
Dydy Martin Frobisher, cyfarwyddwr peirianneg a diogelwch Network Rail, ddim yn ymwybodol eto o beth achosodd y gwrthdrawiad.
“Rydyn ni’n falch iawn na chafodd neb ei anafu’n ddifrifol, ond mae’n rhaid bod y teithwyr wedi cael profiad brawychus iawn, ac mae’n ddrwg iawn gennyn ni am hynny,” meddai ar raglen Today ar BBC Radio 4.
“Rydyn ni’n amlwg nawr am ddechrau ymchwiliad fforensig manwl iawn i’r hyn a ddigwyddodd.
“Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) ar y safle ac maen nhw’n hynod o drylwyr yn y gwaith maen nhw’n ei wneud.
“A bydd hynny’n ein helpu i ddysgu o hyn, a dyna pam mae’r digwyddiadau hyn yn brin iawn, oherwydd rydyn ni’n ymateb yn ofalus iawn, ac yn sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth posib i’w atal ar gyfer y dyfodol.”