Mae angen gweithredu ar frys wedi i fideo ddangos cefnogwyr rygbi wedi’u gwasgu ar drên dros y penwythnos, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Heidiodd miloedd o bobol i Gaerdydd ddydd Sadwrn (Hydref 30) i wylio Cymru’n colli o 54 i 16 yn erbyn Seland Newydd.

Dyma’r tro cyntaf i Stadiwm Principality fod yn llawn ers dechrau’r pandemig, ond dangosodd fideo, a gafodd ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, gefnogwyr wedi’u gwasgu “fel sardîns ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru rhwng Aberdaugleddau a Chaerdydd.

Yn ôl Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, mae angen mwy o drenau, yn enwedig wrth i normalrwydd ddychwelyd.

‘Annerbyniol’

“Mae pobol Cymru fel pe baen nhw wedi arfer teithio ar drenau llawn, yn enwedig ar ddyddiau rygbi sydd, fel rydyn ni’n gwybod, yn denu torfeydd mawr,” meddai Natasha Asghar.

“Yn syml, mae’r diffyg trenau yn annerbyniol. Roedd y gêm wedi bod ar y calendr ers wythnosau a doedd hi ddim yn syndod i neb, ond eto fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru fethu ymateb i wneud yn siŵr bod digon o drenau.

“Dw i wedi dweud ar sawl achlysur – tu mewn a thu allan i’r Senedd – fod angen mwy o drenau, yn enwedig nawr fod bywyd yn dychwelyd tuag at normalrwydd yn araf a phobol yn teithio eto, ond mae’n amlwg nad oedd rheolwyr Trafnidiaeth Cymru yn barod dros y penwythnos.

“Mae’n hanfodol fod y corff, sy’n berchen i Lywodraeth Cymru, yn camu ymlaen a sicrhau bod digon o drenau a cherbydau’n teithio er mwyn gallu ymdopi â niferoedd uchel o bobol ar gyfer gweddill gemau rhyngwladol yr hydref.”

‘Gweithio’n galed’

Wrth ymateb i’r fideo, a sylwadau Leila Al-Baldawi a bostiodd y fideo, dywedodd Trafnidiaeth Cymru ar Twitter eu bod nhw’n “sori” ei bod hi wedi gorfod cysylltu â nhw.

“Dw i wedi teithio ar y siwrne hon yn ystod digwyddiadau ac yn deall pa mor brysur y gall fod,” meddai.

“Gan mai hwn yw’r digwyddiad cyntaf ers y pandemig, rydyn ni’n disgwyl i dorfeydd mawr fynd i mewn i’r ddinas.

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod pob cerbyd sydd ar gael yn cael eu defnyddio, plîs derbyniwch fy ymddiheuriad am unrhyw anesmwythder.”

Roedd y fideo yn dangos nad oedd rhai pobol yn gwisgo mygydau ar y trên, er bod hynny’n orfodol.

“Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn gorfodi’r gyfraith ar reilffyrdd a byddan nhw’n gorfodi hyn ac yn patrolio ein rhwydwaith,” meddai Trafnidiaeth Cymru.

“Mae dros ddeg mil o deithwyr wedi cael eu gwrthod hyd yn hyn a byddwn ni’n parhau i ymgysylltu â’r cyhoedd.”