Dylid gohirio ei gwneud hi’n orfodol i staff iechyd a gofal gael brechlyn Covid-19 nes y gwanwyn er mwyn i’r Gwasanaeth Iechyd allu ymdopi â gaeaf prysur, meddai un o’i arweinwyr.

Mae gweinidogion yn Lloegr wedi bod yn ystyried a ddylid ei gwneud hi’n orfodol i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd gael eu brechu ai peidio.

Dywedodd Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yr wythnos ddiwethaf ei fod yn “gwyro tuag at” wneud y brechlynnau’n orfodol i staff y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Ar hyn o bryd, dydi tua 100,000 o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr heb gael eu brechu’n llawn.

Os yw hynny am ddigwydd, dylid ei ohirio nes mis Ebrill, meddai Chris Hopson, prif weithredwr Cyflenwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a hynny fel bod y gwasanaeth yn gallu dod drwy “aeaf anodd iawn, iawn”.

‘Peryglu diogelwch cleifion’

Cafodd cynlluniau i’w gwneud hi’n orfodol i staff cartrefi gofal yn Lloegr gael eu brechu eu cyhoeddi ym mis Mehefin, ac mae’n rhaid i’r holl staff gael eu brechu’n llawn erbyn Tachwedd 11.

Mae Chris Hopson wedi cyfeirio at achosion yng Nghernyw, lle mae gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd wedi gorfod helpu’r sector gofal cymdeithasol.

“Os ydyn ni’n colli niferoedd uchel iawn o staff sydd heb eu brechu, yn enwedig yn ystod y gaeaf, yna mae hynny’n golygu peryglu diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Rydyn ni’n gwybod – ac mae’r prif swyddog meddygol wedi dweud hyn yn glir iawn – fod gennym ni aeaf anodd iawn, iawn ar ei ffordd, ac rydyn ni’n gwybod bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am gael ei ymestyn yn llawn.

“Felly mae’n gwneud synnwyr gosod y dyddiad terfynol [ar gyfer cael y ddau frechlyn] unwaith mae cyfnod y gaeaf wedi pasio.

“Rydyn ni’n gwybod fod mis Ionawr, Chwefror, ac yn aml mis Mawrth, yn brysur iawn, felly dyna pam ein bod ni’n dweud heddiw ein bod ni’n credu bod gosod terfyn yn Ebrill 2022 yn amser rhesymol.

“Petaem ni’n colli niferoedd uchel iawn o staff dros gyfnod y gaeaf, yna byddai ein gallu i ddarparu gofal yn cael ei effeithio hefyd.”

Wrth ystyried gofal cymdeithasol a chartrefi gofal, dywed Chris Hopson eu bod nhw wedi cael rhybudd o bum mis nes y dyddiad pan fo rhaid i staff gael eu brechu.

“Beth ydyn ni’n ei ddweud yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw ein bod ni angen yr un cyfnod o amser hefyd,” meddai Chris Hopson.

“Dydych chi ond angen edrych ar y problemau y mae darparwyr gofal cymdeithasol yn eu hadrodd ar y funud ac yn dweud: ‘edrychwch, rydyn ni’n ei chael hi’n anodd iawn, iawn ar y funud o ran bod staff o bosib am adael pan ydyn ni eu hangen nhw’.”