Mae pennaeth Barclays wedi ymddiswyddo yn dilyn y canfyddiadau cychwynnol i’r ymchwiliad i’w rôl fel banciwr preifat i’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.
Mae disgwyl i adroddiad gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a’r Awdurdod Rheoleiddio Materion Ariannol gael ei gyhoeddi fis nesaf, ond mae’r drafft cyntaf wedi cael ei yrru at y prif weithredwr Jes Staley yn barod.
Ar ôl derbyn yr adroddiad, a oedd yn ystyried a wnaeth y banc a Jes Staley danbwysleisio’u perthynas â Jeffrey Epstein, fe wnaeth y prif weithredwr ymddiswyddo gan ddweud y bydd y canfyddiadau’n cael eu herio.
Yn ôl y sôn, mae’r drafft cyntaf yn awgrymu ei fod wedi tanbwysleisio ei rôl ym materion ariannol Epstein wrth gweithredu fel banciwr preifat mewn swydd flaenorol.
‘Siomedig’
“Dylid nodi nad yw’r ymchwiliad yn dod i unrhyw ganfyddiadau bod Mr Staley wedi gweld, nac yn ymwybodol, o unrhyw un o droseddau honedig Mr Epstein, sef y cwestiwn canolog ynghylch cefnogaeth Barclays’ tuag at Mr Staley wedi i Mr Epstein gael ei arestio yn haf 2019,” meddai llefarydd ar ran Barclays.
Dywed bwrdd y banc eu bod nhw’n “siomedig gyda’r canlyniad” ond nad yw manylion yr adroddiad wedi’u cyhoeddi eto.
Bydd Jes Staley yn derbyn £2.5m o dâl i adael ei swydd, a bydd yn parhau i dderbyn buddion eraill am y flwyddyn, meddai’r banc.
Eisoes, mae Jes Staley wedi dweud ei fod yn “difaru” ei berthynas ag Epstein “yn fawr”, ar ôl gweithredu fel ei fanciwr preifat wrth weithio i JP Morgan, a pharhau i wneud hynny am saith mlynedd wedi i Epstein gael ei gyhuddo o droseddau rhyw.
Buodd mewn cysylltiad ag Epstein am y tro diwethaf yn ystod hydref 2015, ychydig cyn iddo ymuno â Barclays, ond nid cyn iddo fe a’i wraig hwylio i ynys breifat Epstein am ginio y flwyddyn honno.
Dywedodd na fu mewn cysylltiad ag Epstein ers ymuno â Barclays ym mis Rhagfyr 2015.
Bydd CS Venkatakrishnan, pennaeth marchnadoedd rhyngwladol Barclays, yn brif weithredwr newydd y banc.