Mae nifer fach o bobol yn yr ysbyty ar ôl i drên daro gwrthrych cyn cael ei daro gan drên arall neithiwr (nos Sul, Hydref 31).

Mae lle i gredu bod signalau’n ddiffygiol ar y pryd hefyd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 6.46yh

Cafodd sawl person anafiadau, gan gynnwys gyrrwr un o’r trenau, ac fe gawson nhw eu cludo i’r ysbyty am driniaeth.

Aeth nifer o bobol eraill i eglwys yn yr ardal a gafodd ei hagor yn dilyn y digwyddiad.

Mae’r awdurdodau’n trin y digwyddiad fel un sylweddol ac mae sawl asiantaeth yn cydweithio arno er mwyn darganfod beth yn union ddigwyddodd.

Mae teithwyr yn cael eu hannog i beidio â theithio ar y rhwydwaith sydd wedi cael ei effeithio, ac mae disgwyl oedi ar wasanaethau SWR rhwng Caerwysg a Basingstoke a Great Western rhwng Westbury a Portsmouth.

Network Rail yn ymddiheuro

Mae llefarydd ar ran Network Rail wedi ymddiheuro am y digwyddiad, gan ddweud nad yw’n gwybod beth yn union ddigwyddodd.

“Rydyn ni’n teimlo rhyddhad mawr na chafodd neb eu hanafu’n ddifrifol, ond mae’n rhaid bod y teithwyr wedi cael eithaf braw, ac mae’n ddrwg gennym am hynny,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.

“Rydym yn amlwg yn dechrau ymchwiliad manwl iawn a fforensig i’r hyn ddigwyddodd.

“Mae’r Gangen Ymchwilio Damweiniau Trenau ar y safle ac maen nhw’n eithriadol o drylwyr yn y gwaith maen nhw’n ei wneud.

“A bydd hynny’n ein helpu i ddysgu o hyn, a dyna pam fod y digwyddiadau hyn yn brin iawn, oherwydd rydyn ni’n ei ddilyn i fyny’n ofalus iawn, iawn ac yn sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth posib i’w atal ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd ei bod yn rhy gynnar o lawer i ddyfalu beth oedd wedi digwydd, gan egluro bod “llawer o wybodaeth gyferbyniol”.