Mae streic sbwriel ar y gweill yn Glasgow wrth i uwchgynhadledd newid hinsawdd ddechrau yn y ddinas.
Mae casglwyr sbwriel a glanhawyr strydoedd y ddinas sy’n aelodau o undeb GMB wedi cymryd camau yn dilyn ffrae rhwng undeb a chyngor y ddinas.
Mae mwy na 100 o arweinwyr gwleidyddol y byd wedi cyrraedd y ddinas ar gyfer COP26.
Cafodd y streic ei chanslo am bythefnos ddydd Gwener (Hydref 29) er mwyn cynnal ymgynghoriad yn dilyn cynnig cyflog newydd i weithwyr gan gorff Cosla, ond roedd tro pedol yn ddiweddarach yn dilyn trafodaethau pellach.
Cyflogau
Fe fu’r GMB yn galw am godiad cyflog o £2,000 ac maen nhw eisoes wedi gwrthod cynnig o gynnydd o £850 y flwyddyn i staff sy’n ennill cyflogau o hyd at £25,000.
Mae cynnig Cosla a gafodd ei gyflwyno ddydd Gwener (Hydref 29) am flwyddyn, ac mae’n cynnig codiad cyflog o 5.89% ar gyfer staff y cyngor sydd ar y cyflogau isaf fel rhan o godiad gwerth £1,062 i’r holl staff sy’n ennill llai na £25,000.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi rhoi £30m i gefnogi’r cynnig.
Mae Cyngor Glasgow yn mynnu nad oes “unrhyw reswm” dros y streic, ac maen nhw wedi mynegi eu siom fod yn streic yn cael ei chynnal.