‘Vax’ yw gair y flwyddyn ar gyfer 2021, yn ôl Oxford Languages.
Yn ôl eu hadroddiad newydd, sy’n nodi’r enillydd, mae Oxford Languages yn dweud mai “y gair vax, yn fwy na’r un gair arall, sydd wedi chwistrellu ei hun i mewn i lif gwaed yr iaith Saesneg yn 2021”.
Maen nhw’n dweud bod y gair 72 gwaith yn fwy poblogaidd erbyn mis Medi nag yr oedd e yr un adeg y llynedd.
Mae sawl amrywiaeth ar y gair hefyd, meddai, gan gynnwys ‘vaxxed’ a ‘fully vaxxed’.
Yn ôl yr adroddiad, cafodd y gair ‘vaccine’ ei gofnodi gyntaf yn 1799, gyda ‘vaccinate’ a ‘vaccination’ yn ymddangos flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae lle i gredu mai ‘vacca’ (buwch) yw tarddiad y gair, ac mae’n cyfeirio at waith arloesol y gwyddonydd Edward Jenner wrth ddatblygu brechlyn yn erbyn y frech wen yn y 1790au a’r 1800au.
Yr un adeg y llynedd, ‘furlough’, ‘Covid-19’ a ‘Black Lives Matter’ oedd y geiriau oedd uchaf ar y rhestr.
‘Dewis amlwg’
Yn ôl Casper Grathwohl, llywydd Oxford Languages, ‘vax’ oedd y “dewis amlwg” ar gyfer gair y flwyddyn.
“Fe wnaeth y cynnydd dramatig yn y defnydd o’r gair ddal ein sylw gyntaf,” meddai.
“Yna fe wnaethon ni’r dadansoddiad ac fe ddechreuodd stori ymddangos, gan ddatgelu sut yr oedd ‘vax’ wrth galon ein sylw eleni.
“Roedd y dystiolaeth ym mhob man, o apiau canlyn (vax 4 vax) i rwystredigaethau (‘hot vax summer’) i galendrau academaidd (‘vaxx to school’), yn ogystal â’r byd busnes (‘vax pass’).”
Ychwanega fod y gair yn “newid y ffordd rydyn ni’n siarad ac yn meddwl am iechyd cyhoeddus, y gymuned a ni ein hunain”.
Ymhlith yr enillwyr blaenorol mae ‘vape’, ‘selfie’ a ‘post-truth’, ac fe ddaeth emoji ’dagrau chwerthin’ i’r brig yn 2015.