Fe fydd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn teithio ar drên o Gaerdydd i Glasgow heddiw (dydd Llun, Tachwedd 1) ar gyfer uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26.

Ar drothwy’r uwchgynhadledd, mae’n pwysleisio’r manteision o gydweithio i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd, yn enwedig i wledydd bychain fel Cymru.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyhoeddi argyfwng hinsawdd fis Ebrill 2019.

Ers hynny, mae Cymru wedi cyhoeddi cynllun sero-net gan amlinellu’r degawd nesaf o weithgarwch, wedi dechrau adolygiad ffyrdd gan gydnabod fod angen rhoi’r gorau i gynlluniau sy’n annog mwy o bobol i yrru, ac wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i’w rhentu yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Cymru yw’r wlad orau yn y Deyrnas Unedig, yr ail orau yn Ewrop a’r drydedd orau yn y byd am ailgylchu.

‘Gwneud y pethau bychain’

“Mae hwn yn gyfnod cwbl allweddol i ni i gyd,” meddai Mark Drakeford ar drothwy’r uwchgynhadledd.

“Rydyn ni yn dechrau ar ddegawd o weithredu gwirioneddol yng Nghymru.

“Fel rydyn ni wedi dangos gyda’n cyfraddau ailgylchu sy’n flaengar ar lefel byd, mae gwneud y pethau bychain yn ein bywydau bob dydd yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.

“Ond mae angen i ni wneud llawer mwy yn ystod y deng mlynedd nesaf nag yr ydym wedi’i wneud yn ystod y 30 diwethaf i gyrraedd ein targed sero net.

“I gyflawni hyn, mae angen i bawb weithio gyda’i gilydd – mae angen i bawb chwarae eu rhan.

“Drwy weithio gyda’n gilydd a gweithredu ar y cyd, gallwn greu Cymru gadarnach, decach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Yn Glasgow, yng nghynhadledd COP26, byddwn yn dangos bod Cymru yn barod i chwarae ei rhan.

“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r gynhadledd fel cyfle i ddysgu gan eraill.”