Mae enw’r dyn fu farw yn dilyn digwyddiad yn afon Cleddau yn Hwlffordd wedi cael ei gyhoeddi.

Roedd Paul O’Dwyer yn gyn-filwr, yn ŵr ac yn dad i dri o blant.

Cafodd ei dynnu o’r afon ar ôl neidio i’r dŵr i helpu dwy ddynes oedd wedi mynd i drafferthion, yn ôl adroddiadau.

Bu farw’r ddwy ddynes yn y fan a’r lle hefyd, ac mae dynes arall mewn cyflwr difrifol yn uned gofal dwys Ysbyty Llwynhelyg.

Cafodd pump arall eu tynnu o’r afon gan y gwasanaethau brys, ond dydyn nhw ddim wedi cael anafiadau.

Roedd y naw wedi teithio fel clwb o Bort Talbot am benwythnos ar yr afon.

Dywedodd Vickie Mckinven o Aberdaugleddau, oedd yn un o’r criw, fod y ddwy ddynes wedi mynd i drafferthion oherwydd glaw trwm.

“Hollol dorcalonnus,” meddai. “Roedden ni i gyd yn ffrindiau da.

“Ac fe wnaeth e gymaint i godi arian at elusennau.”

Eglurodd ei bod hi wedi penderfynu peidio mynd ar y daith oherwydd y tywydd.

Paul O’Dwyer

Roedd Paul O’Dwyer wedi gwasanaethu’r Peirianwyr Brenhinol.

Ar ôl gadael y lluoedd arfog, aeth yn ei flaen i sefydlu’r elusen SA1UTE yn Abertawe i gefnogi cyn-filwyr yn y de, ac maen nhw bellach yn codi arian ar gyfer ei deulu yntau.

Roedd e hefyd yn aelod o Glwb Rygbi’r Green Stars yn Aberafan, ac maen nhw wedi talu teyrnged i’w gymeriad “hwyliog” a’i “wên heintus”.

Cafodd ei ddisgrifio fel “anturiaethwr brwd”, ac roedd e’n padlfyrddio, yn syrffio, yn sgïo, yn cerdded ac yn dringo.

Ymchwiliad

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n benderfynol o ddarganfod beth ddigwyddodd i’r criw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc ar ôl 9 o’r gloch fore ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 30).

Fe fu’r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, yr ambiwlans awyr, y gwasanaeth tân a gwylwyr y glannau yn rhan o’r ymdrechion i achub y rhai a aeth i drafferthion.

Mae’r heddlu’n annog pobol sy’n padlfyrddio i ddeall y tywydd cyn mentro allan mewn amodau gwael.