Bydd dim newid i gyfyngiadau Covid-19 yn dilyn adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru sydd i’w ddisgwyl yfory (Tachwedd 18).

Bydd Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero, sy’n golygu bod pob busnes yn gallu parhau i fod ar agor i fasnachu.

Ni fydd y Pás Covid yn cael ei ymestyn i leoliadau lletygarwch.

Ers yr adolygiad diwethaf dair wythnos yn ôl mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn pasys Covid i sinemâu a theatrau.

Rhybuddio

Ond mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn mynnu y bydd yn cadw’r opsiwn o ymestyn pasys dan ystyriaeth, os bydd nifer yr achosion yn codi gan roi mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mae hefyd yn pwysleisio ei fod yn hollbwysig fod pobl yn derbyn eu brechiad atgyfnerthu.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod am gyd-fynd â chyngor arbenigwyr ar roi brechlyn atgyfnerthu Covid-19 i bobl dros 40, ac ail ddos o’r brechlyn i bobl 16 ac 17 oed.

Hyd yn hyn mae cyfanswm o 626,012 o bobl yng Nghymru wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu, gan gynnwys 41.9% o bobol 50 oed a throsodd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

“Mae cytuno i gael y brechiad yn parhau i fod yn gam hanfodol i helpu i ddiogelu Cymru, ac mae’n hollbwysig bod pobl hefyd yn cael y brechiad atgyfnerthu,” meddai.

“Bydd gwneud hyn yn helpu i gadw’r sector lletygarwch ar agor a sicrhau bod busnesau yn gallu masnachu yn ystod cyfnod prysur yr ŵyl.

“Wrth inni ddechrau cynllunio ar gyfer y Nadolig, mae angen inni barhau i gydweithio i ddod â’r coronafeirws o dan reolaeth,” meddai.

“Dyw’r pandemig ddim wedi diflannu – mae pedwaredd don yn llifo ar draws Ewrop, ac mae llawer o wledydd yn cyflwyno cyfyngiadau llymach unwaith eto.”

Diolch i bobl Cymru

Ni fydd cynhadledd i’r wasg yn cael  ei chynnal heddiw (Tachwedd 18) ond yn hytrach mae’r Prif Weinidog wedi rhyddhau fideo ar ei gyfrif Twitter.

 

Fe ddyweodd: “Diolch i’ch gwith caled chi, mae achosion coronafirws yn gostwng.

O ganlyniad, ni fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau i’r rheoliadau – ond nid yw’r firws wedi diflannu.

Gadewch inni barhau i weithio gyda’n gilydd a derbyn cynnig o frechlyn i gadw Cymru yn ddiogel ac yn agored.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi diolch i bobl Cymru am wneud eu rhan i leihau cyfraddau achosion o’r coronafeirws – cyfraddau a oedd wedi cyrraedd lefelau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen – dros y tair wythnos ddiwethaf.

“Dair wythnos yn ôl, roedden ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Ond mae pawb wedi tynnu ynghyd ac mae achosion wedi syrthio i lawr o’r lefelau uchel na welwyd mo’u tebyg o’r blaen,” meddai.

“Byddwn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa o safbwynt iechyd y cyhoedd a byddwn ni’n gweithio gyda’r sector lletygarwch wrth inni baratoi ar gyfer y Nadolig.

“Gadewch inni barhau i gadw ein gilydd yn ddiogel – er mwyn i ni i gyd allu mwynhau Nadolig gyda’n gilydd.”

Bydd ar adolygiad nesaf ar gyfyngiadau Covid-19 yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener 10 Rhagfyr.

“Dim cynlluniau brys” i ehangu pasys Covid i dafarndai neu fwytai, yn ôl Llywodraeth Cymru

Daw hyn yn dilyn sylwadau’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hadolygiad o’r cyfyngiadau ddydd Iau (Tachwedd 18)