Bu i Fil Aelod ennill cefnogaeth drawsbleidiol ar lawr y Senedd neithiwr (dydd Mercher 17 Chwefror).

Yn achlysurol cynhelir balot i benderfynu ar Aelod, nad yw’n aelod o’r Llywodraeth, i geisio cefnogaeth y Senedd i Fil.

Yn dilyn ei lwyddiant yn y balot, fe wnaeth Peter Fox AoS, yr Aelod Ceidwadol dros Fynwy, gyflwyno’r cynnig yn ffurfiol i’r Senedd gan ennill y bleidlais.

Nod y Bil yn yr achos hwn yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy i gryfhau diogelwch bwyd Cymru, gwella lles economaidd a chymdeithasol, a gwella dewis defnyddwyr.

Fe bleidleisiodd aelodau dros gynnig Peter Fox AoS fel a ganlyn: 27 o blaid, 22 yn erbyn gyda dau yn ymatal.

Gan atodi llun o’r aelodau Ceidwadol yn y siambr fe ddywedodd Natasha Asghar, AoS y Ceidwadwyr dros Ddwyrain De Cymru ar ei chyfrif Twitter: “Cyffro mawr i’m cydweithiwr Peter Fox a fydd yn cyflwyno ei Bil Bwyd Cymru newydd ac arloesol yn Senedd Cymru gyda’r gobaith o sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru, cryfhau diogelwch bwyd a gwella lles”.

Comisiwn

Yn ganolog i’r Bil fe fydd yna Gomisiwn Bwyd Cymru yn cael ei sefydlu.

Bydd y Comisiwn yn goruchwylio’r gwaith o gyflwyno Strategaeth Fwyd Cymru, ac yn dwyn partneriaid cyflenwi i gyfrif i sicrhau bod nodau a thargedau polisi yn cael eu cyflawni.

Bydd y bil hefyd yn sicrhau fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y system fwyd yng Nghymru gan sicrhau mwy o gydweithio gyda’r sector yn rhannau eraill o’r DU.

Dywedodd Peter Fox AoS: “Cyflwynais y cynnig hwn ar gyfer Bil a fyddai’n sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yma yng Nghymru i gryfhau diogelwch bwyd, gwella ein lles economaidd-gymdeithasol a gwella dewis y defnyddiwr.

“Fe all y Bil hwn fod o fudd dramatig i ddinasyddion a chynhyrchwyr y wlad hon.”