Mae Plaid Cymru wedi galw am “atebolrwydd gan bawb sydd wrth y llyw” ar ôl i adroddiad newydd gael ei gyhoeddi ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl y gogledd.
Cafodd Adroddiad Holden ei gomisiynu yn ôl yn 2013 ar ôl i staff Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd fynegi pryderon am safonau’r gofal.
Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr wedi bod yn galw ers blynyddoedd am gyhoeddi’r adroddiad yn llawn, ar ôl i grynodeb yn unig gael ei ryddhau yn 2015.
Fe wnaeth canfyddiadau’r adroddiad gan Robin Holden, ac adroddiad arall dilynol, olygu bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi ei roi mewn mesurau arbennig ym Mehefin 2015.
Mae’r bwrdd bellach wedi ei dynnu allan o’r mesurau arbennig hynny, er bod tystiolaeth nad yw’r cynllun gweithredu o’r adroddiad “wedi ei fonitro’n ddigon cadarn.”
Ers hynny, mae marwolaeth arall wedi ei chofnodi yn Uned Hergest.
Ymateb Plaid Cymru
Dywed Llyr Gruffydd, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, bod unigolion ynghlwm â’r bwrdd iechyd wedi eu “cadw yn y tywyllwch.”
“Ar ôl wyth mlynedd hir o gael eu cadw yn y tywyllwch – mae cyhoeddi Adroddiad Holden yn gam pwysig wrth daflu goleuni ar y cyfnod tywyll hwn yn hanes bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
“Mae hi wedi bod yn wyth mlynedd hir lle rydyn ni wedi cael ein gadael i feddwl tybed beth arall sy’n cuddio yn y tywyllwch, faint o fywydau sydd wedi’u colli’n ddiangen, a faint o staff sydd wedi cael eu gorfodi i weithio o dan amodau a arweiniodd at y chwythwyr chwiban i leisio eu pryderon yn y lle cyntaf.
“Erydiad ymddiriedaeth”
“Nawr bod yr adroddiad allan yn yr awyr agored, rhaid dechrau ar adfer ymddiriedaeth pobl gogledd Cymru.
“Mae hyn yn dechrau gyda’r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr hyn y mae’n ei ddatgelu, gan gydnabod erydiad ymddiriedaeth yn y system, ac ymrwymo i ddysgu pob gwers anodd a ddaw yn sgil hyn.
“Rhaid i ni beidio ag anghofio bod yr adroddiad hwn yn un o’r ffactorau wrth roi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig yn y lle cyntaf, bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am y bwrdd iechyd hyd at y llynedd, a hyd yn oed ar ôl iddo ddod allan o arbennig mesurau, parhaodd cleifion i farw.
“Mae wnelo hyn â mwy na rhyddhau adroddiad hynod hwyr, mae hyn yn ymwneud ag atebolrwydd gan bawb sydd wedi bod yng ngofal y bwrdd iechyd yn ystod yr amser mwyaf ofnadwy hwn.”