Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael gorchymyn i newid y ffordd y mae’n cyhoeddi canlyniadau myfyrwyr yn dilyn marwolaeth myfyrwraig oedd wedi cael gwybod ar gam iddi fethu arholiad.
Lladdodd Mared Foulkes, myfyrwraig fferylliaeth 21 oed o Borthaethwy, ei hun ar ôl cael ar ddeall na fyddai hi’n gallu symud ymlaen i’r drydedd flwyddyn.
Derbyniodd hi e-bost ar Orffennaf 8 y llynedd, ond doedd ei marciau ddim yn cynnwys un arholiad y bu’n rhaid iddi ei ailsefyll ac wedi ei basio.
Yn ddiweddarach y noson honno, bu farw ar ôl cwympo o Bont Britannia, a phenderfynodd crwner gofnodi ar Hydref 28 iddi ladd ei hun.
Argymhellion
Mae Katie Sutherland, uwch grwner gogledd Cymru, wedi cyhoeddi adroddiad ac wedi ysgrifennu at y brifysgol yn mynnu eu bod nhw’n ailfeddwl ynghylch pryd a sut maen nhw’n cyhoeddi canlyniadau myfyrwyr a bod negeseuon wedi’u geirio’n ofalus.
Dywedodd fod y drefn bresennol yn “gymhleth, yn ddryslyd ac ar adegau’n gallu ymddangos yn gamarweiniol”.
Ymhlith ei argymhellion mae cymeradwyo canlyniadau arholiadau cyn gynted â phosib, gan gynnwys nodi bod canlyniadau’n cael eu hystyried os nad ydyn nhw wedi cael eu cymeradwyo, rhoi hyfforddiant i staff ynghylch sut i egluro’r broses asesu, a rhoi rhagor o gymorth i’r sawl sydd wedi methu, yn enwedig myfyrwyr bregus.
“Yn fy marn i, mae perygl y bydd rhagor o farwolaethau yn y dyfodol oni bai bod camau’n cael eu cymryd,” meddai.
Bydd rhaid i Brifysgol Caerdydd ymateb i’r crwner erbyn Ionawr 5, yn nodi pa gamau fydd yn cael eu cymryd neu’n cynnig eglurhad os ydyn nhw’n penderfynu peidio cymryd unrhyw gamau.