Fydd cyfyngiadau Covid-19 Catalwnia ddim yn cael eu tynhau am bythefnos arall er gwaetha’r cynnydd mewn achosion yno.
Bydd y cylch newydd o gyfyngiadau’n dechrau fory (dydd Gwener, Tachwedd 18).
Mae pwyllgor Procicat, y pwyllgor brys sy’n gwarchod y cyhoedd, wedi penderfynu cynnal y cyfyngiadau sydd eisoes mewn grym, ond bydd rhaid i Uchel Lys Catalwnia eu cymeradwyo.
Does dim terfyn ar nifer y bobol sy’n gallu ymgasglu mewn bwytai, lleoliadau diwylliannol, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, prifysgolion na ffeiriau masnach.
Mae oriau agor bwytai yr un fath ag oedden nhw cyn y pandemig, a does dim angen cynnal pellter rhwng byrddau, a does dim uchafswm o ddeg o bobol i bob bwrdd chwaith.
Ond mae rhai cyfyngiadau yn eu lle o hyd, gan gynnwys y gwaharddiad ar fwyta ac yfed yn gyhoeddus rhwng 1-6yb, ac mae gwaharddiad hefyd ar werthu alcohol mewn siopau rhwng 10yh a 6yb.
Mae’n rhaid gwisgo mwgwd mewn llefydd cyhoeddus dan do a mannau awyr agored lle nad oes modd cadw pellter rhwng pobol, ac mae disgwyl i hynny barhau drwy gydol yr hydref a’r gaeaf.
Rhaid i blant dros chwech oed wisgo mwgwd i’r ysgol.
Cafodd bron bob un o gyfyngiadau Catalwnia eu llacio ar Hydref 15 ar ôl i lefel rybudd y wlad gael ei gostwng.
Mae’n rhaid bod gan bobol dystysgrif frechu neu brawf Covid negyddol, neu dystiolaeth eu bod nhw eisoes wedi cael y feirws yn y gorffennol, er mwyn cael mynediad i glybiau nos neu ddigwyddiadau mewn gwestai a bwytai lle mae llawr dawnsio dan do.