Gallai ysgolion Conwy wynebu bil o hyd at £350,000 oni bai bod talwyr y dreth gyngor yn talu am godiad cyflog athrawon.
Bydd pwyllgor craffu cyllid ac adnoddau’r Cyngor yn cyfarfod yr wythnos hon i drafod sefyllfa gyllidebol y Cyngor.
Daeth i’r amlwg fod Cyngor Sir Conwy eisoes yn wynebu gorwariant o £1.65m, sy’n cynnwys bil o £550,000 ar gyfer cynnydd o 1.75% mewn cyflogau athrawon o fis Medi eleni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu £6.4m ledled Cymru i gefnogi awdurdodau lleol i ariannu rhan o’r codiad cyflog.
Er nad yw Conwy wedi darganfod ei hunion ddyraniad eto, mae disgwyl iddo fod oddeutu £200,000, gan adael diffyg o rhwng £330,000 a £350,000.
Ond mae’r Cyngor bellach yn wynebu penderfyniad, i ariannu’r diffyg o’i gronfeydd wrth gefn neu ddweud wrth ysgolion am dalu’r bil eu hunain.
“Dwi’n ansicr o foesoldeb hynny,” meddai’r Cynghorydd Anne McCaffrey.
“Yn amlwg, rwy’n deall nad ydych wedi cyllidebu ar ei gyfer, ac felly mae angen mynd i’r afael ag o yn rhywle, ond gyda thri mis o’r flwyddyn ar ôl, ac o ystyried ble mae ysgolion – rwy’n gwybod eich bod yn credu ei bod yn iawn gofyn iddynt ariannu hyn eu hunain oherwydd ni wnaethom ofyn iddynt wneud unrhyw ostyngiadau mewn gwasanaethau, ond yn amlwg, mewn termau real, mae eu cyllidebau’n gostwng ac yn gostwng.”
‘Penderfyniadau anodd’
“Mae cyllidebau ysgolion wedi gwella’n ddramatig, ond yn amlwg bydd rhai ysgolion yn teimlo’r effaith hon yn fwy nag eraill,” meddai Charlie McCoubrey, arweinydd Cyngor Conwy.
“Ond mae’n beth syml y mae’n rhaid i ni ei farnu yma. A ydym yn mynd i fynd am gael ffigwr treth gyngor uwch? Sut y bydd hyn yn cael ei dalu?
“Dyna’r cwestiwn. Ai ein trigolion treth gyngor fydd yn talu, neu a oes rhaid i’r ysgolion ddod o hyd i rai o’r arbedion hynny?
“Dyma’r penderfyniadau anodd y mae’n rhaid i ni eu gwneud.”
“Mae mater y dreth gyngor yn fater ar wahân, ac mae angen mynd i’r afael ag ef yn amlwg,” meddai Anne McCaffrey.
“Mae ysgolion yn darged rhy hawdd yn y cyfnod ofnadwy yma i ysgolion.”